Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fethu â chyflwyno mesurau i wneud ffordd beryglus yn Rhuthun yn fwy diogel.
Ers blynyddoedd mae Darren wedi bod yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu diogelwch priffyrdd ar yr A494 yn dilyn nifer o ddamweiniau difrifol.
Felly, mae'n siomedig bod yr ohebiaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i ymgyrchwyr wedi datgelu nad oes gostyngiadau cyflymder yn mynd i gael eu cyflwyno yn fuan.
Mae llythyr gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates AS, yn nodi:
“Rydym yn diweddaru'r canllawiau 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' i adlewyrchu'r polisi cyfredol, gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yn genedlaethol ac i fodloni'r uchelgeisiau a amlygwyd yn Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021. Yn anffodus, mae'r gwaith hwn yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl ac nid oes gennym raglen ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau ar hyn o bryd. Mae'r canllawiau sy'n bodoli yn parhau ar waith felly hyd nes y bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi.
"Mae fy swyddogion wedi adolygu'r A494 yn Lôn Fawr yn erbyn y canllawiau presennol ac mae'r gwaith hwnnw wedi dod i'r casgliad mai 60mya oedd y terfyn cyflymder priodol. Pan fydd y canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi, bydd swyddogion yn adolygu'r terfyn cyflymder ar Lôn Fawr, ynghyd â gweddill y Rhwydwaith Cefnffyrdd; bydd yr adolygiad ac unrhyw newidiadau sy'n codi yn amodol ar fod â’r cyllid angenrheidiol yn ei le."
Fodd bynnag, nododd fod ei swyddogion wrthi’n asesu pob un o'r adrannau 20mya a 30mya ar draws y Rhwydwaith Cefnffyrdd, gan ddefnyddio'r canllawiau ac "fel rhan o'r adolygiad hwnnw, byddwn hefyd yn ystyried yr angen am derfyn cyflymder clustogi rhwng rhannau o gefnffordd y Terfyn Cyflymder Cenedlaethol a'r terfyn cyflymder 20mya; gallai'r adolygiad hwn o’r terfynau cyflymder clustogi hefyd weld y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng ar yr A494 yn Lôn Fawr."
Meddai Darren:
"Mae'n siomedig nad oes amserlen bendant o hyd ar gyfer gostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn.
"Mae hon yn ffordd hynod beryglus sydd wedi gweld nifer o ddamweiniau difrifol dros y blynyddoedd ac i fod yn onest mae'n warthus nad oes mesurau diogelwch eisoes wedi'u cyflwyno.
"Rwyf wedi codi'r mater dro ar ôl tro yn Siambr y Senedd dros nifer o flynyddoedd, ac yn 2024 croesawais y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, i'r ardal i ddangos iddo pam yn union y mae angen mesurau diogelwch.
"Felly, mae'n rhwystredig nad oes unrhyw beth wedi'i wneud o hyd a bod bywydau'n parhau i gael eu peryglu o ddydd i ddydd.
"Mae cael terfyn o 60mya y tu allan i ddau glwb chwaraeon sy'n cael eu mynychu gan blant yn gofyn am drwbl.
"Allwn ni ddim fforddio mwy o oedi ar hyn - mae'n fater o fywyd a marwolaeth ac mae angen rhoi sylw i’r mater ar unwaith."