Cafodd Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, a Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, weld uned awdioleg symudol gyntaf Cymru ar waith, yn ystod ymweliad diweddar ag Ysbyty Cymunedol Treffynnon. Cawsant gyfle i gwrdd â'r Tîm Awdioleg i ddysgu mwy am y gwelliannau gofal mae'r tîm wedi gallu eu darparu.
Mae'r uned symudol, sydd ar waith ers diwedd 2024, yn cynnwys offer arbenigol gan gynnwys ystafell gwrthsain. Mae'n caniatáu i awdiolegwyr gynnal yr un profion ac ymgynghoriadau â'r rhai sy'n cael eu cynnal mewn clinig ac mae'n cynrychioli buddsoddiad o £90,000 gan elusen i wneud gwasanaethau awdioleg yn fwy hygyrch i gymunedau gwledig.
Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Darren a Sam gyfarfod Jane Wild, Pennaeth Awdioleg Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ynghyd ag aelodau eraill o Dîm Awdioleg Gogledd Cymru a chlywed am y gwasanaethau sydd ar gael gan yr uned symudol. Hefyd, trafodwyd pryderon am amseroedd aros pediatrig ar gyfer gofal awdioleg, sef pum mis ar gyfartaledd, o gymharu â'r targed chwe wythnos.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren Millar AS:
“Roedd hi'n braf cwrdd â'r Tîm Awdioleg a chlywed mwy am y gwasanaethau gwerthfawr maen nhw'n gallu eu cynnig gyda'r uned symudol newydd.
“Un o fanteision yr uned yw ei fod yn darparu llwybr integredig, lle mae cyswllt cyntaf cleifion ag awdiolegydd arbenigol, heb yr angen i gael eu gweld gan feddyg teulu yn gyntaf.
“Roeddwn i'n arbennig o falch o glywed bod cyflwyno'r uned symudol wedi arwain at ostyngiad mewn atgyfeiriadau Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) a gwelliant mewn boddhad cleifion, gan fod y llwybr integredig yn caniatáu i'r broses fynd rhagddo yn llawer cyflymach.
"Hefyd, roedd hi'n braf clywed bod yr uned symudol yn darparu gwasanaethau tynnu cwyr clustiau gan fod hwn yn wasanaeth y mae sawl etholwr wedi dweud wrthyf sy'n anodd ei gael trwy eu meddyg teulu."
Ychwanegodd Sam Rowlands AS:
“Mae Darren a minnau'n cynrychioli llawer o gymunedau gwledig lle mae mynediad at ofal yn gallu bod yn anodd, felly dwi'n teimlo'n gyffrous iawn am botensial yr uned symudol i wneud gofal yn fwy hygyrch i'n hetholwyr.
“Dwi hefyd yn falch bod y Tîm Awdioleg wedi cydnabod y cysylltiad rhwng colli clyw a dementia ac wedi sicrhau bod asesiadau cof yn rhan o'u gwasanaethau clyw, ac mai hon yw'r adran gyntaf o'i fath yng Nghymru i wneud hyn.
“Gobeithio y gallwn weld y model hwn yn cael ei gyflwyno'n ehangach ledled Cymru ac yn wir y DU gyfan.”