Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Aelodau o'r Senedd yn ymweld ag EvadX i drafod cyfleoedd twf a buddsoddi

  • Tweet
Dydd Iau, 23 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
North Senedd Members visit EvadX to discuss growth and investment opportunities
North Senedd Members visit EvadX to discuss growth and investment opportunities

Yn ddiweddar, fe wnaeth Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, ymweld ag EvadX Limited, cwmni saernïo dur sydd wedi hen sefydlu ym Mae Cinmel, i drafod cynlluniau ehangu'r cwmni a'i fuddsoddiad parhaus mewn technoleg newydd.

Sefydlwyd EvadX ddechrau'r 1980au ac mae wedi tyfu'n gyson ers hynny a bellach yn cyflogi 43 o staff. Mae’n buddsoddi mewn offer uwch-dechnoleg gyda systemau modelu 3D arloesol, peiriannau CNC a systemau echdynnu mwg, gan sicrhau cynnyrch o'r radd flaenaf ar gyfer prosiectau mawr ledled y DU, gan gynnwys ym Manceinion a Llundain.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Aelodau o'r Senedd â Simon Adams, Rheolwr Gyfarwyddwr, Beth Griffin, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Robert Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu, a rannodd fanylion am wythnos waith pedwar diwrnod arloesol y cwmni, polisi sydd wedi profi'n boblogaidd gyda staff ac sydd wedi helpu i ddenu recriwtiaid newydd mewn marchnad beirianneg gystadleuol.

Bu Mr Millar a Mr Davies yn trafod eu cefnogaeth i gam nesaf twf EvadX, gan helpu i gryfhau economi gweithgynhyrchu a pheirianneg y Gogledd.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: 

“Roedd hi'n wych cael cwrdd â thîm EvadX a gweld enghraifft mor drawiadol o gwmni o’r Gogledd Cymru sy'n buddsoddi, yn arloesi ac yn ffynnu.

"Mae'r sector gweithgynhyrchu yn bwysig i'n heconomi ranbarthol ac mae cwmnïau fel EvadX yn dangos y sgil, yr ansawdd a'r uchelgais sy'n gwneud y Gogledd yn lle gwych i wneud busnes.

“Mae'r cwmni’n cyfuno degawdau o brofiad gyda buddsoddiad blaengar mewn pobl a thechnoleg, ac mae'n hanfodol ein bod yn cadw ac ehangu'r sgiliau hyn yn ein hardal, felly rwy'n falch bod EvadX yn bwriadu datblygu mwy fyth a chreu mwy o swyddi lleol a fydd yn hwb gwirioneddol i Fae Cinmel a'r rhanbarth ehangach.

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw busnesau fel hyn yn cael eu rhwystro gan drethi uchel a’u bod yn gallu cael gafael ar y buddsoddiad sydd ei angen arnynt i dyfu.”

Ychwanegodd Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd:

“Roedd hi'n bleser ymweld ag EvadX a gweld busnes lleol sy'n ffynnu, yn tyfu ac yn arwain y ffordd yn y Gogledd. Mae'r sector gweithgynhyrchu yn gwbl hanfodol i economi'r Gogledd, gan ddarparu swyddi crefftus â chyflog da a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwneuthurwyr.

“Yr hyn sy'n sefyll allan i mi oedd dull blaengar y cwmni, yn enwedig yr wythnos waith pedwar diwrnod, sy'n amlwg wedi bod yn llwyddiannus o ran hybu morâl a chynhyrchiant staff.

“Mae cynlluniau EvadX i ehangu a chreu swyddi newydd yn newyddion cadarnhaol iawn i'n rhanbarth. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod busnesau fel hyn yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r cyllid grant cywir gan Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i dyfu, buddsoddi a chryfhau economi'r Gogledd."

Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Simon Adams, Rheolwr Gyfarwyddwr EvadX, Beth Griffin, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Robert Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu:

“Roedden ni’n falch iawn o groesawu Darren Millar AS a Gareth Davies AS i EvadX a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y cam nesaf. Wrth i ni nodi 41 mlynedd mewn busnes, rydyn ni’n dal i fod yn falch iawn o'n pobl - mae eu sgil, eu hymroddiad a'u gwaith tîm wedi ysgogi ein llwyddiant ac yn parhau i siapio ein dyfodol.

“Mae llawer o gwmnïau bellach yn archwilio wythnos waith pedwar diwrnod, ond fe wnaethon ni ei fabwysiadu tua 15 mlynedd yn ôl. Mae wedi dod yn rhan annatod o'n diwylliant, gan ein helpu i ddenu a chadw pobl grefftus, gwella lles a hybu cynhyrchiant. Mae'n brawf bod rhoi pobl yn gyntaf yn cyflawni llwyddiant parhaol.

“Wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn technoleg newydd ac ehangu ein gweithrediadau, rydyn ni wedi ymrwymo i greu mwy o swyddi diogel o ansawdd uchel yma yn y Gogledd. Gyda phwysau treth cynyddol, mwy o reoleiddio a phrinder parhaus o weithwyr crefftus, mae'n bwysicach nag erioed bod y llywodraeth yn creu'r amodau i fusnesau ffynnu.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig a byddwn yn falch o gefnogi eu hymrwymiad i fenter a thwf economaidd yn y cyfnod cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026. Mae sector gweithgynhyrchu cryf a chystadleuol yn hanfodol i ffyniant Cymru - gan lywio twf, creu cyfleoedd a chynnal y cymunedau rydyn ni’n falch o fod yn rhan ohonynt.”

You may also be interested in

Denbighshire village celebrates opening of new play equipment

Denbighshire village celebrates opening of new play equipment

Dydd Mawrth, 4 Tachwedd, 2025
Clwyd West MS Darren Millar was pleased to officially open new play equipment at Llanarmon Playing Field at the weekend, marking an important milestone in local efforts to improve recreational facilities for families.

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree