Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Amseroedd aros hir yn ysbytai'r Gogledd yn rhoi straen ar feddygon teulu

  • Tweet
Dydd Iau, 4 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Amseroedd aros hir yn ysbytai'r Gogledd yn rhoi straen ar feddygon teulu

 Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd wedi rhybuddio bod oedi ar gyfer triniaethau ysbyty yn y Gogledd yn rhoi straen ychwanegol ar bractisau meddygon teulu ac yn ei gwneud hi'n anoddach i gleifion gael apwyntiadau.

Wrth godi'r mater yn y Senedd yr wythnos hon, galwodd Darren ar Ysgrifennydd Iechyd y Cabinet i gymryd camau i fynd i'r afael â'r problemau.

Meddai:

"Mae gan bob un ohonom y broblem hon yn ein hetholaethau, onid oes, lle mae pobl sy'n ceisio cael yr apwyntiadau hyn yn ei chael hi'n anodd iawn, yn enwedig yn y boreau, ac apwyntiadau ar yr un diwrnod wrth gwrs?

"Ymddengys eu bod yn haws eu cael nag apwyntiadau ymlaen llaw, a cheisio trefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar gyfer archwiliadau a phethau eraill lle nad oes cymaint o frys.

"Un o'r heriau y mae meddygon teulu yn dweud wrthyf eu bod yn eu hwynebu, oherwydd yr amseroedd aros hir iawn ar gyfer triniaethau ysbyty, yw eu bod bellach yn gorfod trin mwy o bobl, ac mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar apwyntiadau yn y gymuned.

"A gaf i ofyn i chi am yr wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig ar gyfer gogledd Cymru? Gwyddom fod y ffigurau amseroedd aros yn amheus i fyny yno, ond o ystyried y pwysau ychwanegol yn y gogledd oherwydd yr amseroedd aros hir iawn, pa adnoddau ychwanegol rydych chi'n eu rhoi i'r practisau meddygon teulu hynny fel y gallant ymdopi â'r baich ychwanegol y mae'n ei greu?"

Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn "gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod eu perfformiad cyffredinol yn gwella fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio".

Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:

"Ers blynyddoedd rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad i feddygon teulu, ac eto dyma fi'n dal i gael cysylltiad rheolaidd â chleifion sy'n methu cael apwyntiad gyda'u meddyg.

"Mae bywydau'n cael eu rhoi yn y fantol o ddydd i ddydd. Mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn ar fyrder”  

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

DM

MS demands assurances for residents hit by the closure of supported living facilities in Abergele, Mold and Ruthin

Dydd Gwener, 4 Medi, 2026
Clwyd MS Darren Millar has called for more support for elderly residents affected by the closure of supported living facilities in Abergele, Mold and Ruthin.
 

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree