Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Annog trigolion i fynychu cyfarfod cyhoeddus ar gynlluniau croesfannau

  • Tweet
Dydd Gwener, 22 Awst, 2025
  • Newyddion Lleol
Residents encouraged to attend public meeting on level crossing plans

Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog pobl i fynychu cyfarfod cyhoeddus fis nesaf i ddysgu mwy am gynlluniau i adeiladu pont i gymryd lle’r croesfannau ym Mhensarn a Belgrano.

Mae Network Rail yn gweithio ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru i gynyddu nifer y gwasanaethau ar arfordir y Gogledd 50%, yn ogystal â chynyddu capasiti 40%.

Er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau yn ddiogel, maen nhw wedi adolygu'r defnydd o groesfannau yn yr ardal a'r risgiau ychwanegol y gallai hyn ei achosi.

Er mwyn diogelu'r cyhoedd rhag y risgiau, maen nhw’n bwriadu cau'r ddwy groesfan reilffordd, Pen Uchaf a Thŷ Gwyn, yn barhaol, ac adeiladu ffordd amgen fwy diogel o groesi'r rheilffordd.

Mae'r dyluniadau wedi'u haddasu i gynnwys adborth o sesiynau galw heibio gyda thrigolion, yn ogystal â gwaith ymgysylltu â chyrff cymunedol eraill.

Mae Network Rail bellach ar fin cynnal cyfarfod cyhoeddus i roi cyfle pellach i bobl ddysgu mwy am y gwaith.

Cynhelir y cyfarfod hwn yn y Peacock Lounge, Parc Carafanau Tŷ Gwyn, ddydd Mercher 3 Medi rhwng 3.30 a 6.30pm.

Mae Darren, sydd wedi bod yn galw  am welliannau diogelwch ar y croesfannau ers tro byd, yn annog pobl i fynychu'r cyfarfod.

Meddai:

"Mae'r croesfannau’n cael eu defnyddio'n gyson gan bobl leol ac ymwelwyr, ond maen nhw’n wirioneddol beryglus ac, yn 2019, yn anffodus bu dwy farwolaeth ar groesfan Tŷ Gwyn, felly rwy'n falch bod croesfan fwy diogel yn mynd i gael ei hadeiladu o’r diwedd.

"Mae Network Rail wedi gwneud gwaith gwych yn ymgynghori â'r gymuned leol ar y cynlluniau ac mae'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn estyniad pellach o'r broses ymgynghori honno.

"Mae'r cyfarfod yn gyfle i glywed mwy am yr hyn sydd ar y gweill, pryd fydd y gwaith yn dechrau a'r tarfu y bydd yn cael ei achosi. Rwy'n annog pobl i fynychu a gofyn eu cwestiynau i Network Rail.

"I'r rhai na allan nhw fod yn bresennol, mae rhagor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig ar gael yn https://www.networkrail.co.uk/running-the-railway/our-routes/wales/pensarn-level-crossings/".

 

You may also be interested in

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

Dydd Gwener, 15 Mai, 2026
Responding to news that Conwy County Council is set to launch an £18,000 public consultation on plans to introduce a Visitor Levy in the County Borough, Clwyd MS Darren Millar has hit out at the devastating impact that a tourism tax could have on the local economy.A law introduced by the previous We

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree