Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Annog y Samariaid i ailystyried cau cangen y Rhyl

  • Tweet
Dydd Gwener, 25 Gorffennaf, 2025
  • Newyddion Lleol

Gyda'r Samariaid wedi cyhoeddi efallai y bydd 100 o'i ganghennau ar draws y DU ac Iwerddon yn cau, gan gynnwys y gangen yn y Rhyl, mae Darren Millar, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, wedi ysgrifennu at yr elusen yn galw arnyn nhw i ailystyried eu penderfyniad.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru naw cangen y Samariaid ac un 'hyb'; dim ond dwy gangen sydd yn y Gogledd (Y Rhyl a Bangor) ac un yn y Canolbarth (Aberystwyth).

Cangen y Rhyl a’r Gogledd-ddwyrain yw'r lleiaf o'r ddwy gangen yn y Gogledd ac mae'n rhoi cyngor i bobl dros y ffôn.

Mae Darren yn poeni y bydd cau’r gangen yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd, felly mae'n galw ar y Samariaid i ailystyried eu cynlluniau.

Meddai:

"Roeddwn i'n hynod siomedig o glywed efallai y bydd cangen y Samariaid ar Bedford Street, y Rhyl, yn cau. Mae'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio oddi yno ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi mewn ffordd na fydden nhw pe baent yn gweithio gartref.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi gwneud cynnydd mawr wrth recriwtio gwirfoddolwyr newydd, gyda phob un ohonyn nhw’n teithio i gyfleuster y Gangen, ac rwy’n clywed bod ysbryd cymunedol cryf o fewn y gangen.

"Os oes unrhyw un o'r gwirfoddolwyr yn cael trafferth gydag unrhyw un o'r galwadau maen nhw'n eu hateb, maen nhw'n gallu gofyn i’w cydweithwyr a Chyd-gyfarwyddwyr y Gangen am arweiniad. Ni fydd hyn yn bosibl os byddan nhw'n gweithio gartref. Mae pryderon hefyd ynglŷn â chyfrinachedd galwadau os bydd y gwirfoddolwyr yn gwneud y gwaith o bell.

"Mae'r Samariaid yn elusen wych sy'n achub bywydau bob dydd – gall cau canghennau roi hynny i gyd yn y fantol.

"Felly, rwy'n annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn yr elusen i feddwl o ddifrif am eu cynlluniau i gau canghennau, yn enwedig yma yn y Rhyl lle mae'r gwasanaeth yn gweithio cystal  ar hyn o bryd."

 

 

You may also be interested in

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Call for charges for replacement recycling containers to be scrapped

Dydd Llun, 15 Mehefin, 2026
Clwyd MS Darren Millar has called on the Welsh Government to introduce a consistent national approach to replacement recycling containers across Wales.Darren is concerned that residents in some counties, including Denbighshire, are being forced to pay for replacement recycling boxes, bins and bags,&

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree