
Mae'r buddsoddiad o £2.5 miliwn yn safle diweddaraf Thorncliffe Builders Merchants yng ngogledd Cymru wedi cael ei ganmol gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, a fu yno’n agor y safle yn swyddogol yr wythnos diwethaf.
Mae'r busnes teuluol, a sefydlwyd ym 1987, bellach yn un o brif gyflenwyr adeiladwyr annibynnol y rhanbarth.
Mae ganddo ganghennau eisoes yn Nyserth ac Ewloe, gwasanaeth llogi sgip yn Ewloe ac Abergele, a pheiriannau gofal tir a garddio yn Rhuddlan.
Mae safle Wrecsam wedi bod ar agor ers mis Ebrill, ond cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ddydd Gwener.
Ar ôl ymweld â depo Dyserth yn gynharach eleni, roedd Darren yn falch iawn o glywed bod y cwmni’n ehangu a’i fod yn cael gwahoddiad i dorri'r rhuban a rhoi araith yn y seremoni yr wythnos diwethaf.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd:
"Roedd yn bleser gwirioneddol cael bod yn agoriad swyddogol cangen newydd Thorncliffe Building Supplies yn Wrecsam. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i Thorncliffe ac i'r gymuned ehangach yn Wrecsam.
"Ers ei sefydlu ym 1987, mae Thorncliffe Building Supplies wedi tyfu i fod yn un o brif gyflenwyr adeiladwyr annibynnol y rhanbarth, gydag enw da wedi'i adeiladu ar ansawdd, dibynadwyedd a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae'r agoriad heddiw yn adlewyrchu nid yn unig twf y cwmni ond hefyd ei ymrwymiad parhaus i wasanaethu anghenion gweithwyr proffesiynol masnach a thrigolion lleol fel ei gilydd.
"Mae'r safle newydd hwn yn ychwanegiad i'w groesawu i'r teulu Thorncliffe sydd â changhennau presennol yn Nyserth, Ewloe, Abergele a Rhuddlan. Mae'r lleoliad newydd yn Wrecsam yn gam arwyddocaol o ran twf a phresenoldeb rhanbarthol parhaus y cwmni.
"Mae'r buddsoddiad o £2.5 miliwn yn y cyfleuster newydd hwn yn dangos hyder yn nyfodol adeiladu, datblygu a thwf cymunedol yn y gogledd. Nid yn unig hynny ond mae hefyd wedi creu 9 swydd i bobl leol.
"Un o brif uchafbwyntiau cangen Wrecsam yw cyflwyno concrit, morter a sgrîd parod arloesol sy'n gwneud bywyd yn haws i adeiladwyr a’r rhai sy’n adnewyddu eiddo.
"Mae'n amlwg bod ysbryd teuluol yn sail i fusnes Thorncliffe - gyda chenedlaethau o'r teulu Harper yn gysylltiedig â’r cwmni – a'r gwytnwch y mae'r cwmni wedi'i ddangos trwy gyfnodau newidiol o ran tirweddau economaidd. Maen nhw bob amser wedi addasu ac ehangu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.
"Hoffwn longyfarch Tim Harper, y tîm rheoli, a'r holl staff ar y bennod newydd gyffrous hon. Rwy'n siŵr y bydd y gangen newydd hon yn Wrecsam yn llwyddiant ysgubol."
Roedd Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i’r Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn bresennol yn yr agoriad hefyd.
Meddai:
"Roedd yn bleser mawr mynychu'r dathliad ddydd Gwener. Mae Thorncliffe wedi dod yn bell ers iddyn nhw gael eu sefydlu ym 1987, ac mae'r cwmni’n adnabyddus bellach ledled y gogledd am y gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol y maen nhw’n ei ddarparu, ynghyd â'u cynnyrch o safon.
"Rwy'n falch iawn eu bod wedi dewis Wrecsam fel lleoliad ar gyfer eu cangen ddiweddaraf – bydd eu presenoldeb yn gaffaeliad go iawn i'r ddinas.
"Rwy'n croesawu'r swyddi maen nhw eisoes wedi'u creu ar y safle ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw gyda'r fenter ddiweddaraf hon. O ystyried popeth maen nhw wedi'i gyflawni hyd yma, rwy'n hyderus y bydd cangen Wrecsam yn profi'r un lefel o lwyddiant â'u canghennau eraill yma yn y gogledd."