Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cofio ac yn myfyrio ar erchyllterau'r Holocost

  • Tweet
Dydd Mercher, 28 Ionawr, 2026
  • Newyddion Lleol
Leader of the Welsh Conservatives remembers and reflects upon horrors of the Holocaust
Leader of the Welsh Conservatives remembers and reflects upon horrors of the Holocaust

Mynychodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, ddigwyddiad yng Nghaerdydd yr wythnos hon i gofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ochr yn ochr â'r miliynau o bobl eraill a laddwyd o dan erledigaeth y Natsïaid ac mewn hil-laddiadau dilynol yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Roedd Darren yn un o nifer o arweinwyr gwleidyddol yn nigwyddiad coffáu cenedlaethol Cymru ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, a gynhaliwyd ddydd Llun.

Mynychwyd y gwasanaeth ingol hefyd gan arweinwyr crefyddol, yn ogystal â goroeswr yr Holocost, Peter Lantos BEM.

Ymunodd cynrychiolydd o Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd â llysgenhadon ifanc a soniodd am eu profiadau o'r prosiect Gwersi o Auschwitz sy'n agored i fyfyrwyr 16 i 18 oed.

Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren, a drefnodd i Lyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost fod ar gael i ASau lofnodi yn y Senedd:

"Mae'n hanfodol bod y Senedd a chenedl Cymru yn cymryd yr amser i gofio a myfyrio ar erchyllterau'r Holocost a'r holl hil-laddiadau ers hynny, ac mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein helpu i wneud hynny.

"Roedd y gwasanaeth ddydd Llun yn hynod deimladwy ac roedd hi’n fraint clywed gan oroeswr yr Holocost, Peter Lantos.

"Ganed Peter yn Hwngari ym 1939. Yn haf 1944 cafodd ei alltudio gyda'i rieni i wersyll Bergen-Belsen yn yr Almaen lle bu farw ei dad o newyn. Goroesodd ef a'i fam a chawsant eu rhyddhau gan Fyddin yr Unol Daleithiau y tu allan i Magdeburg a ddaeth yn barth meddiannaeth Sofietaidd yn fuan wedyn.

"Ar ôl sawl mis o ansicrwydd, fe wnaethant ddianc rhag y Rwsiaid, a theithio ar draws Ewrop a oedd wedi'i rhwygo gan ryfel, yn ôl i Hwngari. Roedd llawer o aelodau o'i deulu mawr wedi marw yn yr Holocost.

"Fel y dywedodd Peter 'antisemitism, the hatred of Jews which fuelled the Holocaust, is alive and well everywhere, including this country'.

"Fel y Ceidwadwyr Cymreig, rydyn ni’n sefyll yn gadarn yn erbyn pob math o gasineb. Rydyn ni’n anrhydeddu dioddefwyr yr holocost trwy ailymrwymo i wyliadwriaeth, addysg a gweithredu, fel nad oes unrhyw genhedlaeth yn gorfod wynebu drwg o'r fath eto."

 

 


 

 

 

You may also be interested in

"Wales needs fair funding and better value for taxpayers"

"Wales needs fair funding and better value for taxpayers"

Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 2026
Leader of the Welsh Conservatives and Clwyd MS Darren Millar has called on the Welsh Government to use its existing budgets in a way that delivers better value for money for Welsh taxpayers.Speaking in a debate on funding for Wales, Darren called for a fairer funding system, while recognising t

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree