Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn galw ar fusnesau bach yn y Gogledd i gael y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu trwy wneud cais am wobr genedlaethol.
Mae The Small Awards yn dathlu busnesau bach gorau'r DU.
Ers ei lansio yn 2017, mae'n targedu'r sector busnesau bach cyfan, gan ganolbwyntio ar fusnesau sy'n aml yn cael eu hanwybyddu gan wobrau eraill.
Dechreuodd y broses wobrwyo ar 1 Rhagfyr 2025, pan wahoddwyd busnesau bach i wneud cais trwy wefan The Small Awards.
Mae ceisiadau'n cau ar 28 Chwefror 2026 am hanner nos, a bydd y ceisiadau’n cael eu beirniadu yn seiliedig ar nifer o feini prawf sy'n berthnasol i'r wobr benodol, a hefyd ar berfformiad cryf fel busnes parhaus.
Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o fusnesau bach yn ymgysylltu’n gryf â’r gymuned a bydd y broses feirniadu yn dod i ben erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Wrth annog busnesau bach yn y Gogledd i wneud cais, dywedodd Darren:
"Rydyn ni’n hynod ffodus yma yn y Gogledd bod gennym ni fusnesau bach rhagorol, ac rydw i wedi cael y pleser o ymweld â llawer ohonyn nhw trwy gydol fy nghyfnod fel AS.
"Yn ddiweddar, wrth ymgyrchu yn yr Wyddgrug, galwais i mewn i bopty enwog Hulsons i gael un o'u pasteiod blasus.
"Maen nhw'n fusnes teuluol sy'n mynd yn ôl flynyddoedd ac mae'n wych eu bod nhw'n dal i gael cymaint o lwyddiant.
"Mae busnesau bach yn dibynnu ar ein cefnogaeth, a dyna pam rwy’n bachu ar bob cyfle i’w hyrwyddo ac annog pobl i'w defnyddio.
"Nhw yw asgwrn cefn cymunedau lleol a byddai'n wych gweld rhai ohonyn nhw’n cael eu cydnabod yn ffurfiol yn The Small Awards 2026."
Y categorïau ar gyfer y Gwobrau yw:
Arwr Stryd Fawr - Y busnes stryd fawr gorau
Gwobr ‘Bricks and Clicks’ - Y busnes bach amlsianel gorau
Gwobr Etifeddiaeth - Y busnes teuluol gorau
Hyrwyddwr Cadwyn Gyflenwi - Y busnes B2B gorau
Y Busnes Newydd Gorau - (llai na 18 mis)
Y Seren Ddigidol - Y busnes digidol yn unig gorau
'Heart of Gold’ - Y busnes sy’n cyfrannu fwyaf i’w gymuned
‘At Your Service’ - Y busnes gwasanaeth bach gorau
‘Sole to Sole’ - Y perchennog busnes bach hunangyflogedig gorau
‘Mission Impossible’ - Y busnes menter gymdeithasol gorau
‘Net Hero’ - Y busnes sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd amgylcheddol
Gwobr Busnes Bach y Flwyddyn - Y busnes bach gorau o’r cwbl
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau a sut i wneud cais, ewch i The Small Awards