Yn dilyn cyhoeddiad Arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch y byddai Llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn diddymu'r dreth stamp i brynwyr tai yn Lloegr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau y byddem yn diddymu'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer prif breswylfeydd, y dreth gyfatebol yng Nghymru.
Mae'r dreth yn codi tua £147 miliwn y flwyddyn ar gyfer eiddo ‘preswyl prif gyfradd' – prif breswylfeydd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi defnyddio cyfran o'r cyllid heb ei ddyrannu, gwerth o leiaf £400 miliwn, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid fel rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf, i dalu'r gost o ddiddymu'r dreth ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
“Mae’r dreth stamp yng Nghymru yn mygu dyheadau pobl i ddringo’r ysgol eiddo. Bydd ei dileu yn hwb i’n marchnad dai a'n heconomi, ac yn rhoi'r urddas i bobl fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.
“Hoffwn i Gymru fod yn ddemocratiaeth o berchenogion cartrefi, lle mae gan bawb ran yn eu cymuned leol, a mwy o arian yn eu pocedi eu hunain.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi gwneud prynu cartref yn fwyfwy anodd ac anfforddiadwy i bobl ifanc, a symud i gartref llai yn fwy o her i bobl hŷn.
“Mae ein marchnad dai yng Nghymru wedi torri; dyma ran o'n cynllun ni i'w thrwsio.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Lywodraeth Leol a Thai, Joel James AS:
“Mae bod yn berchen ar gartref allan o gyrraedd gormod o bobl ifanc ac mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn rhwystro symudedd yn ein marchnad dai.
“Mae'n rhaid ei ddiddymu a byddwn yn ei ddiddymu.”