Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi canmol y gwaith sy'n cael ei wneud gan ganolfan gymorth newydd i deuluoedd sy'n wynebu canser plentyndod ar ôl ymweld â chyfleuster Bae Colwyn yr wythnos hon.
Aeth Darren i ymweld â Phrosiect Joshua Tree yn Penrhos Manor, Bae Colwyn, i ddysgu mwy am yr help a'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu yn y ganolfan a agorodd ym mis Tachwedd.
Mae'r elusen, a arferai fod ym Mochdre, wedi cefnogi dros 150 o deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan ganser plentyndod ledled y Gogledd, ers 2018.
Mae'r ganolfan yn Penrhos Manor yn galluogi Joshua Tree i ehangu ei gyrhaeddiad a chynnig mynediad at wasanaethau hanfodol i fwy o deuluoedd - megis cwnsela, therapi celf a chwarae, digwyddiadau teuluol, gweithgareddau awyr agored a sesiynau lles i rieni.
Yn ystod ei ymweliad, cafodd Darren gyfle i gyfarfod â'r staff Manon, Lea a Nia, yn ogystal â'r rhai sy'n derbyn triniaeth ar hyn o bryd, rhai sydd wedi gwella dros dro, a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth hefyd.
Siaradodd hefyd â theuluoedd a oedd yn mynychu sesiwn i greu dalwyr breuddwydion gydag artist lleol, lle defnyddiwyd y gleiniau therapi a gawsant yn ystod eu triniaeth.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Darren:
“Mae'r gefnogaeth mae Joshua Tree yn ei darparu i deuluoedd sy'n wynebu canser plentyndod yn wirioneddol wych ac rwy mor falch y bydd y ganolfan newydd hon yn eu galluogi i helpu mwy o deuluoedd yn y gogledd.
“Mae canser yn difetha’ bywydau ar be bynnag oedran, ond mae gwylio plentyn yn dioddef o ganser yn dorcalonnus ac yn effeithio nid yn unig ar y sawl sy'n cael diagnosis, ond ar y teulu cyfan. Er bod ffrindiau a theulu yn gefn aruthrol yn ystod y cyfnod anodd hwn, heb os, mae cael cymorth gan bobl sy'n deall yn union beth rydych chi'n mynd drwyddo yn amhrisiadwy.
“Roedd ymweld â'r ganolfan a siarad â theuluoedd yn rhoi gwell dealltwriaeth well i mi o ba mor bwysig yw gwasanaeth The Joshua Tree.
“Gyda theuluoedd o ogledd Cymru yn gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion am driniaeth a chymorth, mae pawb sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y gefnogaeth hanfodol hon ar gael yn nes at adref.
“Fe wnes i fwynhau cwrdd â'r tîm yn ystod fy ymweliad, ac wrth gwrs yr holl bobl ifanc ddewr a'u teuluoedd. Maen nhw'n mynd trwy gymaint ond yn ei wneud gyda gwên a byddwn i'n dweud bod llawer o hynny diolch i'r cymorth a'r gefnogaeth maen nhw'n ei gael gan Joshua Tree.
“Clywais rai straeon teimladwy ac ysbrydoledig yn ystod fy ymweliad, fel un Jasmine Lee, a oedd yn y ganolfan gyda'i nain Trish Roberts. Mae Jasmine yn derbyn triniaeth, ond er gwaethaf hyn mae wedi dod o hyd i'r amser a'r nerth i sefydlu ei helusen ei hun - Jazzysgestures.”
Ychwanegodd Darren:
“Gwaith codi arian cymunedol, rhoddion a grantiau, sy'n gyfrifol am y ganolfan newydd, felly hoffwn ddiolch i bawb am gyfrannu.
“Hefyd, hoffwn ddiolch a chymeradwyo'r holl dîm yn y ganolfan newydd am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud ac am fy ngwahodd i draw - gan ddiolch yn arbennig i sylfaenwyr The Joshua Tree, Lynda a David Hill, a sefydlodd yr elusen ar ôl i'w mab gael diagnosis o lewcemia.
“Rydyn ni'n ffodus iawn o gael canolfan gymorth mor drawiadol yn lleol ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r tîm wrth iddyn nhw barhau i ddatblygu ac ehangu arlwy'r ganolfan.”