Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi canmol rôl cymunedau ffydd Cymru yn dilyn lansiad adroddiad newydd Cynghrair Efengylaidd Cymru 2025 yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o gyfraniadau sylweddol cymunedau ffydd i gymdeithas yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod cymunedau ffydd yn cyfrannu o leiaf £250 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, cynnydd o 49% o'i gymharu â'r adroddiad blaenorol yn 2008.
Mae hefyd yn nodi bod 97% o gymunedau ffydd yn cymryd rhan mewn mentrau gweithredu cymdeithasol, gyda phwyslais ar gymorth teuluol a chymdeithasol, cymorth iechyd, a gwasanaethau banciau bwyd. Mae'r adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd mannau addoli fel canolfannau cymunedol a'r angen parhaus i gymunedau ffydd arloesi ac ehangu eu gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion cymunedol cynyddol.
Ar ôl mynychu'r lansiad a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd, dywedodd Darren:
“Mae pobl o ffydd ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych ac yn gwneud byd o wahaniaeth i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
"Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at effaith enfawr a chadarnhaol cymunedau ffydd ledled Cymru, gan gynnwys effaith economaidd enfawr o chwarter biliwn o bunnoedd bob blwyddyn.
“Mae gan grwpiau ffydd gyrhaeddiad ymhell y tu hwnt i unrhyw sefydliad llywodraeth felly mae'n hanfodol eu bod yn cael y cymorth a'r anogaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth mwy fyth yn y dyfodol."
Ychwanegodd:
"Hoffwn ddiolch i Gynghrair Efengylaidd Cymru am ariannu'r ymchwil bwysig hon ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i hyrwyddo gwaith eglwysi, capeli a chymunedau ffydd eraill o Fôn i Fynwy."
ENDS
Nodiadau i Olygyddion:
Faith in Wales 2025 report // Adroddiad Ffydd yng Nghymru 2025 - Evangelical Alliance