Mae'r Coffee Shed yng Ngorsaf Gwasanaeth Rhydymwyn wedi cael ei chanmol yn dilyn ymweliad gan AS Clwyd, Darren Millar, a alwodd heibio i ddysgu mwy am ei dull unigryw o gynnig lle croesawgar i gwsmeriaid ymlacio a mwynhau lluniaeth.
Ers ei sefydlu yn ystod cyfyngiadau symud Covid, mae'r Coffee Shed wedi datblygu i fod yn orsaf boblogaidd i gerddwyr, beicwyr a modurwyr.
Wedi'i adeiladu o amgylch thema ailddefnyddio ac ailgylchu, mae'r orsaf gwasanaeth yn gwneud defnydd creadigol o eitemau wedi'u hailgylchu o'r garej fel dodrefn.
Canmolodd Darren yr orsaf gwasanaeth hefyd am ennill gwobr Gwasanaeth Cwsmeriaid Blaengwrt Gorau Cymru yn ddiweddar.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Darren:
"Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â Coffee Shed a gweld y ffordd unigryw y mae'r tîm wedi mynd ati i greu lle croesawgar i bobl gael hoe o deithio.
"Roedd hi’n wych dysgu mwy am sut mae'r busnes yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu yn greadigol i greu'r gofod.
"Llongyfarchiadau i'r tîm ar eu gwobr ddiweddar. Mae'n wych gweld eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cydnabod.
"Mae Coffee Shed yn enghraifft wych o fusnes lleol sy'n cynnig lle cyfeillgar i gymryd seibiant a mwynhau'r amgylchedd."
