Skip to main content

Darren Millar

Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Canmol Sied Ieuenctid Mochdre am yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar fywydau pobl ifanc

  • Tweet
Dydd Llun, 29 Medi, 2025
  • Newyddion Lleol
Mochdre Youth Shed praised for positive impact it is having on young lives
Mochdre Youth Shed praised for positive impact it is having on young lives

Mae menter arobryn sy'n darparu lle diogel i bobl ifanc ac yn eu helpu i symud tuag at berthynas fwy cadarnhaol â chymdeithas wedi cael ei chanmol gan ASau lleol yn dilyn eu hymweliad yno yr wythnos hon.

Ymwelodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, ac AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders, â Sied Ieuenctid Mochdre ddydd Iau i glywed mwy am y fenter a sut mae o fudd i bobl ifanc yn yr ardal.

Sefydlwyd Youth Shedz yn 2018 yn y Gogledd ac, erbyn hyn, mae wedi sefydlu siediau mewn trefi ledled y wlad.

Mae Sied Ieuenctid yn debyg i ganolfan gymunedol neu ieuenctid, ac mae cael sied o’r fath mewn tref yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sylweddol.

Agorwyd Sied Ieuenctid Mochdre y llynedd, ac yn ystod eu hymweliad cyfarfu Darren a Janet â'r Prif Swyddog Gweithredol, Scott Jenkinson, Cydlynydd Cynorthwyol y Sied, Sonia Nicholson, a rhai o'r bobl ifanc maen nhw’n eu gwasanaethu, a chlywed sut mae wedi bod yn helpu'r bobl ifanc sy'n mynd yno.

Meddai Darren:

"Mae dod o hyd i'ch llwybr mewn bywyd pan fyddwch chi'n ifanc yn gallu bod yn heriol, ac mae’n naoddach fyth heb y gefnogaeth a'r cyfeiriad cywir.

"Rydw i wedi cael llwyth o adborth cadarnhaol am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Youth Shedz yn y Gogledd, felly roeddwn i’n falch o gael y cyfle i ymweld â chanolfan Mochdre a chwrdd â'r rhai y tu ôl i'r fenter wych hon a chlywed mwy am sut maen nhw'n helpu pobl a allai fod yn llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid traddodiadol prif ffrwd.

"Mae'r hyn maen nhw wedi'i greu yn Sied Mochdre yn wirioneddol wych. Mae'r hwb yn cynnig amgylchedd cynnes, croesawgar lle mae pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel, ac mae'n creu cyfleoedd iddyn nhw symud tuag at berthynas fwy cadarnhaol â chymdeithas.

"Rwy'n canmol Scott a phawb arall am bopeth maen nhw'n ei wneud i ymgysylltu â phobl ifanc trwy roi cyfleoedd iddyn nhw gael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

"Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn haeddu canmoliaeth enfawr - maen nhw wir yn newid bywydau."

Meddai Janet:

"Fe wnes i gysylltu â Youth Shedz ar ôl clywed am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud yn y Gogledd.

"Mae Sied Mochdre yn rhywle lle mae pobl ifanc na fydden nhw fel arfer yn mynychu clwb ieuenctid traddodiadol yn teimlo'n gyfforddus. Mae'r fenter hon yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn darparu rhywle y gall pobl ifanc, a allai ddilyn llwybrau amhriodol fel arall, ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol a gwerth chweil.

"Roedd yn ymweliad addysgiadol iawn ac rwy'n diolch i Scott a'r tîm am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud, nid yn unig ym Mochdre, ond ledled y Gogledd."

 

You may also be interested in

More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffi

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar. All rights reserved.
Powered by Bluetree