Mae Ysgol Aberconwy, Ysgol Uwchradd yn nhref Conwy, wedi cael ei chanmol am ei safonau dysgu ac addysgu uchel.
Mae'r ganmoliaeth hon yn dilyn ymweliad â'r ysgol gan Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, a Darren Millar AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fe gawson nhw amser bendigedig yn dysgu am y dechnoleg fodern a'r dulliau addysgu, yn ogystal â gweld sut mae'r ysgol yn gwneud popeth posibl i gynorthwyo'r holl ddisgyblion i wireddu eu llawn botensial.
Wrth sôn am yr ymweliad ag Ysgol Aberconwy, dywedodd Janet:
“Fe hoffwn ddiolch o galon i Ian Gerrad, sydd wedi bod yn Bennaeth Ysgol Aberconwy ers 2014. Mae ei wasanaeth i'n cymuned yn wych!
“Roedd yn gyfle ardderchog i weld y cwricwlwm newydd ar waith. Hefyd, fe welsom sut mae'r athrawon hynod dalentog ac ymroddedig yn disgwyl y safonau uchaf gan yr holl fyfyrwyr a sut maen nhw'n cefnogi ac yn meithrin pob disgybl i wireddu ei llawn botensial.
“Mae rhaglen allgyrsiol ffyniannus ar waith yn yr ysgol sy’n cynnwys ystod o weithgareddau chwaraeon mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, yn ogystal â chyngherddau cerddorol a chynyrchiadau drama. Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu'r holl ddisgyblion i wireddu eu llawn botensial, a'u helpu i fod yn aelodau cyflawn o gymdeithas.
“Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i athrawon Ysgol Aberconwy am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Rhaid cofio bod athrawon yn gwneud gwaith hollbwysig yn sicrhau bod y cenedlaethau nesaf yn cael eu cefnogi a'u haddysgu, gan eu helpu i wneud cyfraniad pwysig at gymdeithas”.
Ychwanegodd Darren Millar AS:
"Roedd hi’n bleser mawr ymweld ag Ysgol Aberconwy, ysgol drawiadol sy'n cyflawni’n wych i'w disgyblion.
"Fe wnaeth y cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol greu argraff arbennig arnaf a da oedd clywed am ei gwelliannau o ran cyflawniadau academaidd.
"Roedd yr ymroddiad i ragoriaeth gan y myfyrwyr, yr athrawon a'r tîm arweinyddiaeth yn glir i'w weld, sy’n ganmoladwy ac yn ysbrydoledig.
"Mae Ysgol Aberconwy yn sicr yn ysgol sy’n mynd o nerth i nerth ac rwy'n talu teyrnged i’r holl staff a’r myfyrwyr am eu gwaith caled a'u hymrwymiad wrth gyrraedd y lefel hon o lwyddiant.
"Mae'r ysgol yn gaffaeliad go iawn i'r gymuned leol. Mae'n enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd disgwyliadau uchel yn mynd law yn llaw ag ymrwymiad a gwaith caled. Gallai ysgolion eraill ledled Cymru ddysgu llawer o'r arferion da a welir yn Ysgol Aberconwy.
"Diolch i'r ysgol am ein gwahodd i ymweld ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n dal ati gyda’u gwaith gwych".