Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cerdyn Nadolig 'Rhodd o Gariad' merch ysgol o Fae Colwyn yn cipio'r brif wobr

  • Tweet
Dydd Gwener, 12 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Colwyn Bay school girl's 'Gift of Love' Christmas card design scoops top prize 
Colwyn Bay school girl's 'Gift of Love' Christmas card design scoops top prize 

Mae dyluniad cerdyn Nadolig merch ysgol o Fae Colwyn wedi cipio'r brif wobr iddi yng nghystadleuaeth cardiau Nadolig flynyddol AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar.

Bob blwyddyn, mae Darren yn gwahodd disgyblion ysgol ar draws ei etholaeth i ddylunio cerdyn Nadolig, y mae'n ei dosbarthu yn yr ardal.

Y thema eleni oedd yr 'Anrheg Nadolig Gorau' a seiliodd Elizabeth Lambourne, 11 oed o Ysgol Pen-y-Bryn, ei dyluniad ar y 'Rhodd o Gariad'.

Meddai Darren:

"Dydy dewis enillydd cyffredinol byth yn hawdd, a oedd eleni ddim yn eithriad, ond mae gan ddyluniad Elizabeth bopeth roedden ni’n chwilio amdano - mae'n Nadoligaidd, lliwgar, cyfoes ac unigryw.

"Roeddwn i hefyd wrth fy modd ei bod hi wedi dewis y 'rhodd o gariad', sef yr anrheg gorau y gallwch chi ei roi i rywun adeg y Nadolig.

"Bydd dyluniad Elizabeth yn cael ei anfon at filoedd ac rwy'n siŵr y bydd pawb sy'n derbyn fy ngherdyn Nadolig eleni yn gwerthfawrogi ei dawn artistig yn fawr.

"Roedd hi’n wych cwrdd ag Elizabeth wyneb yn wyneb yn Ysgol Pen-y-Bryn yr wythnos hon i'w llongyfarch ar ei dyluniad gwych, a chyflwyno ei gwobr iddi.

"Hoffwn ddiolch i'r holl blant a gymerodd ran yn fy nghystadleuaeth eleni. Mae fy nhîm yn y swyddfa a minnau wedi mwynhau mynd trwy'r holl ddyluniadau gwych - mae gennym ni lond gwlad o artistiaid ifanc dawnus iawn yma yng Ngorllewin Clwyd!"

   


 

You may also be interested in

DM

MS demands assurances for residents hit by the closure of supported living facilities in Abergele, Mold and Ruthin

Dydd Gwener, 4 Medi, 2026
Clwyd MS Darren Millar has called for more support for elderly residents affected by the closure of supported living facilities in Abergele, Mold and Ruthin.
 

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree