Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cleifion y Gogledd mewn perygl oherwydd ôl-groniad o apwyntiadau dilynol

  • Tweet
Dydd Mercher, 22 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
Backlog

Mae Darren Millar, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o apwyntiadau dilynol yn y Gogledd.

Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Darren fod yr ôl-groniad yn bodoli ledled y wlad, ond bod y sefyllfa'n arbennig o ddifrifol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Galwodd am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y mater, gan rybuddio bod yr holl aros am yr apwyntiadau dilynol hyn yn rhoi cleifion mewn perygl.

Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd:  

"Yn y gogledd yn unig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod 170,000 o bobl mewn ôl-groniad ar gyfer apwyntiadau dilynol. Fe ddylai llawer o'r rhain gael eu gweld mewn da bryd, oherwydd, wrth gwrs, fe all fod pobl â chyflyrau sy'n dirywio, yn enwedig os oes cyflwr gofal llygaid ganddyn nhw.

“Ac mae Diabetes UK, yr RNIB, ac eraill, wedi rhybuddio bod llawer o bobl yn wynebu niwed na ellir ei adfer i'w golwg o ganlyniad iddyn nhw beidio â chael eu hapwyntiadau dilynol mewn pryd.

“Rwy'n credu, er bod angen canolbwyntio ar yr apwyntiadau cyntaf hynny, o safbwynt dilyniant, oherwydd bod rhestrau aros hir iawn gennym ni drwyddi draw, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r ffaith hefyd fod apwyntiadau dilynol yr un mor bwysig. Felly, fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn.”

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:

“Rwy'n falch bod y Trefnydd, Jane Hutt AS, wedi cytuno yn ei hymateb fod apwyntiadau dilynol yn bwysig ond mae'n amlwg nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun i fynd i'r afael â'r mater hwn.”

 

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Dydd Gwener, 7 Awst, 2026
Clwyd MS Darren Millar has welcomed Denbighshire County Council's decision to review its controversial blue cardboard recycling bags after personally raising residents' concerns with the Council's Chief Executive.The review follows months of complaints from residents who say the bags are not fit for

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree