Mae AS Clwyd, Darren Millar, wedi mynegi ei siom yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i fwrw rhagddi â chynlluniau i gau nifer o ysgolion Catholig yn y sir, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug, sydd wedi'i lleoli yn etholaeth Clwyd.
Roedd Darren wedi galw ar y cyngor i ddileu'r cynlluniau, gan godi pryderon am yr effaith ar ddisgyblion, rhieni a staff, yn ogystal â'r galw am addysg Gatholig yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae'r penderfyniad wedi’i wneud er gwaethaf i 96% o'r ymatebwyr wrthwynebu'r cynigion.
Mewn ymateb i'r penderfyniad, dywedodd Darren Millar:
"Rwy'n siomedig iawn gyda phenderfyniad Cyngor Sir y Fflint i fwrw rhagddi â'i gynigion er gwaethaf gwrthwynebiad cadarn.
"Mae teuluoedd, staff a'r gymuned ehangach wedi gwneud eu barn yn glir, ac rwy'n poeni bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau wedi anwybyddu’r safbwyntiau hyn yn llwyr.
"Mae ysgolion Catholig yn rhan werthfawr o'u cymunedau ac yn darparu opsiwn pwysig i deuluoedd sydd eisiau addysg Gatholig i'w plant.
"Byddaf yn parhau i sefyll gyda rhieni, disgyblion a staff i sicrhau dyfodol Dewi Sant."
