Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu buddsoddiad sylweddol gan Dŵr Cymru i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr mewn dau bentref yn Sir Ddinbych.
Bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi tua £1.5 miliwn i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr yn ardal y Gyffylliog a thua £350,000 i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr yn ardal Betws Gwerful Goch.
Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i wella'r rhwydwaith dŵr yfed yn yr ardal a sicrhau diogelwch y cyflenwad, ynghyd â lliniaru problemau gyda cholli cyflenwad neu bwysedd dŵr isel sy'n cael eu profi ar hyn o bryd gan rai cwsmeriaid yn yr ardal.
Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi, pan fydd contractwyr (OCU Group) yn dechrau ailosod tua 4 cilometr o bibellau dŵr yn ardal y Gyffylliog a 1.2 cilometr o bibellau dŵr yn ardal Betws Gwerful Goch. Os bydd popeth yn mynd yn iawn, dylai'r gwaith fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd Gwanwyn 2026.
Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, ni ddylai cyflenwad dŵr cwsmeriaid gael ei effeithio mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith hwn, efallai y bydd angen i Dŵr Cymru ddiffodd y cyflenwad dŵr am gyfnod byr o amser bob hyn a hyn wrth iddyn nhw gysylltu eiddo â chyflenwad amgen wrth iddyn nhw weithio ar y pibellau. Os oes angen iddyn nhw wneud hyn, byddant yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid yr effeithir arnynt trwy neges destun ar yr un diwrnod.
Bydd llawer o'r gwaith mewn caeau, felly ni ddylai fod gormod o darfu. Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd angen cau ffyrdd dros dro neu osod goleuadau traffig i sicrhau diogelwch trigolion a gweithwyr. Bydd rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd yn cael ei rhannu yn nes at yr amser.
Wrth groesawu'r gwaith, dywedodd Darren:
"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y rhwydwaith dŵr yn Sir Ddinbych a bydd o fudd mawr i drigolion.
"Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i wella'r rhwydwaith dŵr yfed yn yr ardal a chadw dŵr yn llifo trwy leihau'r risg o ollyngiadau a thorri cyflenwad a brofwyd gan rai cwsmeriaid yn yr ardal.
"Rwy'n falch o glywed y bydd Dŵr Cymru yn defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol fel y gallan nhw wneud y gwaith cyn gynted â phosibl a gwneud eu gorau glas i leihau’r tarfu.
"Mae cylchlythyrau wedi’u hanfon at y rhai sy'n byw yn ardal y Gyffylliog a Betws Gwerful Goch, ac rwyf wedi cael sicrwydd y bydd Dŵr Cymru yn gweithio'n agos gyda'r ardaloedd hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gwsmeriaid drwy ei wefan a'i dudalennau cyfryngau cymdeithasol. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'w dudalen we ar dwrcymru.com/inyourarea
"Bydd digwyddiad gwybodaeth galw heibio hefyd yng Ngwesty'r Llew Coch, Y Gyffylliog, Ll15 2DN ddydd Mercher 3 Medi rhwng 2pm-6pm."
Os oes adegau pan fydd angen i Dŵr Cymru ddiffodd eich dŵr am gyfnod byr, bydd yn cysylltu â chi drwy neges destun. I gael y negeseuon hyn, gofalwch fod gan Dŵr Cymru rif ffôn symudol neu linell dir gyfredol ar gyfer eich cartref. Gallwch wirio hyn a diweddaru eich manylion cyswllt drwy gysylltu â nhw drwy’r cyfleuster Sgwrsio Byw (drwy'r botwm Gofyn Cwestiwn) ar eu gwefan yn dwrcymru.com neu drwy ffonio ein rhif cyswllt 24 awr ar 0800 052 0130.