Ar ôl cefnogi galwadau i ostwng y terfyn cyflymder ym mhentref Maeshafn yn Sir Ddinbych, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i’w gyflwyno.
Mae Cyngor Cymuned Llanferres a thrigolion lleol wedi bod yn poeni am gyflymder traffig drwy'r pentref ers peth amser, gan dynnu sylw at y perygl yn sgil diffyg troedffyrdd a lleoliad y maes chwarae.
Rhannodd Darren y pryderon hyn ac ysgrifennodd at Gyngor Sir Ddinbych yn gofyn iddyn nhw ostwng y terfyn cyflymder.
Gwrthodwyd y galwadau yn wreiddiol, "oherwydd bod y rhan o'r ffordd sy'n cael ei goleuo gan oleuadau stryd yn ddim ond 110 metr o hyd ac felly yn disgyn ymhell islaw'r isafswm hyd a argymhellir ar gyfer terfyn cyflymder, sef 300 metr".
Fodd bynnag, mae Darren wrth ei fodd bod y cyngor bellach wedi adolygu'r sefyllfa ac, oherwydd lefel y pryder cymunedol, wedi penderfynu darparu arwyddion 20 mya ar y naill ben a'r llall o'r darn presennol o’r ffordd sy'n cael ei goleuo gan oleuadau stryd.
Disgwylir i'r gwaith codi arwyddion ddigwydd o fewn y ddau fis nesaf.
Gan groesawu'r newyddion, dywedodd Darren:
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych am wrando ar y pryderon a godwyd gan y gymuned leol a mynd i’r afael â’r mater.
"Rwy'n gwerthfawrogi nad yw'r ardal yn bodloni'r meini prawf arferol ar gyfer gosod terfyn 20mya, ond gyda'r diffyg troedffyrdd a lleoliad y maes chwarae, mae'r terfyn cyflymder presennol yn peri risg.
"Mae Swyddogion Traffig Sir Ddinbych wedi gwneud y penderfyniad cywir ac rwy'n siŵr y bydd y gymuned leol wrth eu bodd â’r newyddion heddiw, fel yr ydw i.”
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyniad y terfyn cyflymder newydd a gweld y pentref yn cael ei wneud yn fwy diogel i bawb."