Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Croesawu mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A494

  • Tweet
Dydd Llun, 1 Medi, 2025
  • Newyddion Lleol
A494

Ar ôl galw dro ar ôl tro dros y blynyddoedd am fesurau diogelwch ar yr A494, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r cyhoeddiad am gyllid ar gyfer gwelliannau ar y darn rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys gosod arwyddion rhybudd, marciau ffyrdd a physt marcio peryglon newydd.

Byddant yn cael eu gosod ger Gwesty’r Clwyd Gate ar ddarn uchaf y ffordd - lle mae'n troi'n sydyn.

Wrth groesawu'r buddsoddiad, dywedodd Darren:

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn un hir ddisgwyliedig. Mae hwn yn ddarn peryglus o’r ffordd ac rydw i wedi bod yn galw am welliannau ers blynyddoedd. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi rhywfaint o arian o’r diwedd a gwneud y ffordd hon yn fwy diogel.

"Rydyn ni wedi gweld llawer gormod o ddamweiniau a marwolaethau ar yr A494 dros y blynyddoedd, felly bydd trigolion yn croesawu'r gwelliannau hyn, ond mae'n siomedig ein bod ni wedi gorfod aros mor hir.

"Pan gafodd prosiectau ar y ffordd hon eu rhoi o’r neilltu o ganlyniad i'r moratoriwm ar fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf newydd, heriais Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro ar ei phenderfyniad a thynnu sylw at y damweiniau a oedd yn digwydd ar y ffordd.

"Bydd yr arwyddion a'r marciau a fydd yn cael eu gosod yn rhybuddio gyrwyr bod pobl yn cerdded, beicio a marchogaeth yn yr ardal ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn eu lle."


 

 

You may also be interested in

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Dydd Mercher, 24 Rhagfyr, 2025
Welsh Conservatives have accused Welsh Labour of rank hypocrisy after Labour ministers in Westminster were forced into watering down controversial inheritance tax changes affecting farms, changes which Welsh Labour MPs had previously backed in full.After months of sustained pressure from farmers, fa

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree