Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Croesawu terfynau cyflymder ar yr A494

  • Tweet
Dydd Mercher, 18 Chwefror, 2026
  • Newyddion Lleol
Croesawu terfynau cyflymder ar yr A494

 Ar ôl galw ers amser maith am fesurau diogelwch ar yr A494, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion bod terfynau cyflymder clustogi yn cael eu cyflwyno ar ddwy ran o'r ffordd.

Rhannau byr o’r ffordd wrth i chi agosáu neu adael terfyn cyflymder 20mya neu 30mya sy'n helpu gyrwyr i arafu yn fwy graddol yw terfynau cyflymder clustogi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod terfynau cyflymder clustogi yn cael eu cynnig ar gyfer ochr orllewinol y terfyn 20mya ar yr A494 Llanbedr Dyffryn Clwyd, ac ar gyfer y naill ochr a'r llall i'r terfyn 20mya ar yr A494 Rhuthun.

Wrth groesawu'r cynigion, dywedodd Darren:

"Roeddwn i'n hynod falch o weld y ddwy ran yma o'r A494 yn cael eu cynnwys yn y rhestr yn dilyn adolygiad o derfynau cyflymder 20mya.

"Gall gorfod gostwng eich cyflymder yn gyflym o 60mya i 20mya fod yn beryglus, felly bydd cael terfynau cyflymder clustogi yn y rhannau hyn yn gwneud y ffordd yn llawer mwy diogel.

"Gallai'r cynigion arwain at ran 40mya fer yn cael ei hychwanegu rhwng y 60mya a'r 20mya i sicrhau gostyngiad mwy graddol mewn cyflymder.

"Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld nifer o farwolaethau ar yr A494 dros y blynyddoedd, a dyna pam rydw i wedi galw dro ar ôl tro am leihau'r terfyn cyflymder.

"Felly, rwy’n croesawu’r cynigion hyn yn fawr, ond rwy'n siomedig na fydd unrhyw newidiadau ar yr A494 Gwyddelwern gan fod hon hefyd yn ffordd beryglus.

"Byddaf yn parhau i roi pwysau ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i sicrhau bod y rhan hon o'r A494 yn elwa ar fesurau diogelwch hefyd.

"Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal unrhyw farwolaethau pellach ar yr A494." 


 

You may also be interested in

Calls to end "unacceptable" corridor care as pressure grows on the Welsh NHS

Calls to end "unacceptable" corridor care as pressure grows on the Welsh NHS

Dydd Llun, 16 Mawrth, 2026
Y Byd ar Bedwar has revealed that almost 89,000 patients have been treated in corridors or in other non-clinical environments at Betsi Cadwaladr Health Board hospitals from 2022 to the end of October 2025.On average, patients received care in corridors for almost 10 hours at Ysbyty Glan Clwyd last y

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree