Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Croesawu Ymchwiliad Cyhoeddus i gynnig Parc Cenedlaethol Glyndŵr

  • Tweet
Dydd Llun, 30 Mawrth, 2026
  • Newyddion Lleol
National Park

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru y bydd ymchwiliad lleol cyhoeddus i gynnig Parc Cenedlaethol Glyndŵr.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu penodi Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i gynnal yr ymchwiliad i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau a wnaed mewn cysylltiad â chreu Parc Cenedlaethol Glyndŵr.

Fis Medi'r llynedd, lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyfnod ymgynghori statudol o 12 wythnos ar y Parc Cenedlaethol arfaethedig, a fydd yn cwmpasu rhannau o gefn gwlad Sir Ddinbych a Gwynedd.

Yn ei ymateb ei hun, dywedodd Darren, sydd bob amser wedi bod o blaid yr egwyddor o sefydlu parc cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain, na allai gefnogi'r cynigion sydd wedi’u cyflwyno ar hyn o bryd.

Meddai:

"Mae fy nghefnogaeth bob amser wedi bod yn amodol ar ddau beth.

"Yn gyntaf, dylai ffiniau parc cenedlaethol newydd gael eu halinio ag Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol presennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

"Ac yn ail, yn hytrach na sefydlu Awdurdod Parc Cenedlaethol drud a biwrocrataidd newydd, dylai Llywodraeth Cymru roi'r cyfrifoldeb i gynghorau lleol a chynghorwyr, sy'n uniongyrchol atebol i'r rhai maen nhw'n eu gwasanaethu, am reoli dynodiad y Parc Cenedlaethol, fel sy'n wir ar hyn o bryd am yr AHNE."

Wrth groesawu'r ymchwiliad lleol cyhoeddus, dywedodd:

"O ystyried yr ystod o safbwyntiau a fynegwyd, o blaid ac yn erbyn creu Parc Cenedlaethol newydd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynnal ymchwiliad cyhoeddus yw’r dull cywir yn fy marn i.

"Mae'r cynnig wedi cael gwrthwynebiadau gan gynghorau sir Wrecsam, Powys a Sir Ddinbych, gyda phryderon am drefniadau cyllido a chynllunio, yn ogystal â'r effaith ar brisiau tai, gwasanaethau lleol a'r Gymraeg yn cael eu codi.

"Mae'n hanfodol bod yr holl safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried yn iawn. Fel rydw i wedi’i ddweud erioed, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cynnig ar gyfer parc cenedlaethol newydd yn gweithio gyda’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn, yn hytrach nag yn eu herbyn."

 

You may also be interested in

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

Dydd Gwener, 15 Mai, 2026
Responding to news that Conwy County Council is set to launch an £18,000 public consultation on plans to introduce a Visitor Levy in the County Borough, Clwyd MS Darren Millar has hit out at the devastating impact that a tourism tax could have on the local economy.A law introduced by the previous We

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree