Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd Tystysgrifau ar ôl colli Babi ar gael i'r rhai sy'n colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y bydd rhieni mewn profedigaeth yn gallu gwneud cais am dystysgrifau o 2026 ymlaen.
Er bod Tystysgrifau ar ôl colli Babi ar gael yn Lloegr ers mis Chwefror 2024, a bod y rhai sydd wedi'u heffeithio yn yr Alban yn gallu cofnodi'r brofedigaeth yn y Llyfr Coffa Cenedlaethol o Feichiogrwydd, nid oes cynllun tebyg ar waith yng Nghymru hyd yma.
Daw'r cyhoeddiad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o golli babanod ac i gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
Mae Darren wedi ymgyrchu dros gyflwyno Tystysgrifau ar ôl colli Babi yng Nghymru ac wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried y cynllun y llynedd. Mae Darren felly yn falch iawn bod cynlluniau bellach wedi'u cyhoeddi'n ffurfiol.
Wrth sôn am hyn, dywedodd Darren Millar AS:
“Rydw i wedi bod yn ymgyrchu dros gyflwyno Tystysgrifau ar ôl Colli Babi yng Nghymru ers peth amser bellach, felly mae hwn yn gyhoeddiad cadarnhaol dros ben.
“Mae tystysgrifau ar gael yn Lloegr ers bron i ddwy flynedd bellach ac mae'n hen bryd i rieni mewn profedigaeth yng Nghymru gael yr un hawl â'r rhai dros y ffin.
“Bydd y dystysgrif syml ond gwerth chweil hon yn helpu llawer o rieni mewn galar trwy gydnabod eu colled yn ffurfiol, ac rwy'n hyderus y bydd y gwaith i weithredu'r cynllun hwn nawr yn mynd rhagddo'n gyflym.”