Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Cwestiynau’r Prif Weinidog: 'Amser i bwyso’r botwm a datgan argyfwng iechyd'

  • Tweet
Dydd Iau, 19 Mawrth, 2026
  • Newyddion Lleol
FMQs: ‘Time To Pull The Rip-Cord And Declare A Health Emergency’

Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, heriodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Prif Weinidog ynglŷn â chyflwr GIG Cymru, yn dilyn rhaglen ddiweddar Y Byd ar Bedwar a ddatgelodd fod bron i 89,000 o gleifion wedi cael eu trin mewn coridorau neu ardaloedd eraill anghlinigol yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 2022 a Hydref 2025.

Ar gyfartaledd, treuliodd cleifion bron i 10 awr ar goridorau yn Ysbyty Glan Clwyd y llynedd, yr adeg hiraf o'r holl ysbytai yn y rhanbarth, tra bod un claf yn Ysbyty Gwynedd yn 2024 wedi aros ar goridor am dros bum diwrnod.

Ailadroddodd Mr Millar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig i ddatgan argyfwng iechyd, er mwyn sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a mynd i'r afael â'r argyfwng.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:

"Ledled Cymru, mae gofal brys yn dirywio, mae gofal mewn coridorau wedi troi’n norm, ac mae pobl yn cael niwed ac yn marw o ganlyniad.

"Dydy strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn ddim yn gweithio. Mae staff yn anobeithio ac yn teimlo nad oes ganddyn nhw gefnogaeth, tra bod cleifion yn cael eu hamddifadu o'u hurddas ac yn cael eu rhoi mewn perygl.

"Mae'n gywilyddus bod y Prif Weinidog wedi gwrthod ymddiheuro i'r rhai sydd wedi gorfod derbyn gofal mewn coridor, ac mae’n anodd coelio ei bod hi'n parhau i wadu bod ein GIG yng nghanol argyfwng llawn.

"Ni all y Prif Weinidog ddatrys problem y mae hi'n gwrthod cyfaddef sy’n bodoli. Mae'n bryd tynnu'r llinyn a datgan argyfwng iechyd er mwyn cynyddu’r capasiti gwelyau, rhoi terfyn ar y sgandal o ofal mewn coridorau, ac atal cleifion rhag marw'n ddiangen mewn coridorau a chypyrddau yn ein hysbytai ledled Cymru."

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

Dydd Gwener, 15 Mai, 2026
Responding to news that Conwy County Council is set to launch an £18,000 public consultation on plans to introduce a Visitor Levy in the County Borough, Clwyd MS Darren Millar has hit out at the devastating impact that a tourism tax could have on the local economy.A law introduced by the previous We

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree