Skip to main content

Darren Millar

Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Cwestiynau'r Prif Weinidog - Darren Millar yn beirniadu'r llywodraeth Lafur am ddiffyg brys ar ymchwiliad i gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol

  • Tweet
Dydd Mawrth, 21 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
FMQs- Darren Millar Criticises Labour Government for Lack of Urgency on Grooming Gang Inquiry

Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, cododd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, bryderon am y diffyg diweddariadau ar sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru.

Cododd Mr Millar bryderon pellach yn dilyn adroddiadau bod dau oroeswr wedi gadael panel dioddefwyr a goroeswyr Llywodraeth y DU, gan nodi diffyg ymddiriedaeth yn y broses. Mynegodd un goroeswr ofnau bod yr ymchwiliad wedi dod yn "llai am y gwir a mwy am gelu pethau" ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y ddau ymgeisydd ar y rhestr fer i arwain yr ymchwiliad yn gyn-bennaeth heddlu a gweithiwr cymdeithasol - ill dau o sefydliadau a oedd wedi methu dioddefwyr pan oedd angen amddiffyniad arnynt fwyaf.

Hefyd, beirniadodd Mr Millar y ffaith nad yw'r grŵp cyfeirio dioddefwyr-goroeswyr sy'n cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin fel rhan o'i Strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, wedi cyfarfod eto, yn ôl Emily Vaughn, sydd wedi goroesi achos o gamdriniaeth.

Dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:

"Mae'r diffyg brys gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU ar y mater hwn yn frawychus ac yn destun pryder.

"Mae pedwar mis wedi mynd heibio ers i'r Prif Weinidog ysgrifennu ataf i ddweud bod grŵp cyfeirio dioddefwyr-goroeswyr yn cael ei sefydlu yng Nghymru - ac eto i gyd, nid yw'r grŵp wedi cyfarfod o gwbl, yn ôl dioddefwyr camdriniaeth.

"O gofio bod mwy o bobl wedi'u harestio yn y Rhyl mewn perthynas â chamfanteisio'n rhywiol ar blant dros yr haf, mae'r oedi hwn yn gwbl annerbyniol.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth 

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffi

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar. All rights reserved.
Powered by Bluetree