Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, cwestiynodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a oedd Llywodraeth Cymru yn sefyll i fyny dros bobl Cymru drwy fynnu mwy o gymorth i fusnesau, ffermwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Ailadroddodd Darren Millar AS alwadau ar Lywodraeth y DU i ddileu'r trethi ffermydd teuluol a chwmnïau teuluol, i dalu'r diffyg cyllid sy'n deillio o benderfyniad Rachel Reeves i godi cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ac i adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru.
Er ei bod yn amlwg y bydd Llafur yn codi trethi unwaith eto ar bobl sy'n gweithio, aeth Millar ati i feirniadu Plaid Cymru a Reform am fod "ddim gwell" o ran eu cynlluniau ar gyfer Cymru a'r DU.
Meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae'n amlwg bod Llafur ar fin taro pobl sy'n gweithio gyda mwy o drethi yfory, gan ymestyn cylch diderfyn o ddiflastod Rachel Reeves, ond dydy’r pleidiau eraill ddim gwell.
"Mae Plaid eisiau ein methdalu drwy rwygo'r DU ac maen nhw'n parhau i gefnogi ffiniau agored. Yn y cyfamser, mae Reform eisiau mwy o wariant ar les a gwariant breuddwyd gwrach, heb unrhyw gynllun ar gyfer sut y bydd trethdalwyr yn talu'r bil.
"Dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun credadwy i dorri trethi, lleihau gwastraff, cael gwariant lles yn ôl dan reolaeth a chael economi Cymru i symud."