Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cwestiynau'r Prif Weinidog: “Mae ein drws ar agor" – Y Prif Weinidog yn cytuno i drafodaethau cyllideb gyda'r Ceidwadwyr Cymreig

  • Tweet
Dydd Mawrth, 14 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
dm

Yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, cytunodd Eluned Morgan i gwrdd ag Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i drafod cyllideb y flwyddyn nesaf, gan ddweud "mae ein drws ar agor”.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn brin o fwyafrif yn y Senedd a bydd angen pleidleisiau ychwanegol arni i basio ei chyllideb.

Roedd Darren Millar AS wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ddweud, er na allai gefnogi dull 'mwy o'r un peth' ar gyfer cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, y gallai cytundeb cyllideb fod yn bosibl os bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai o flaenoriaethau allweddol y Ceidwadwyr Cymreig, megis dileu Treth Stamp Cymru (Treth Trafodiadau Tir) ar gyfer pob prif eiddo preswyl.

Dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:

“Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am gytuno i gwrdd â mi i drafod cyllideb y flwyddyn nesaf.

“Ni fyddwn yn cyd-weld ar bob mater, ond rydyn ni’n wrthblaid gyfrifol sydd eisiau sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf.

“Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir. Rydyn ni’n barod i drafod y gyllideb, mewn ewyllys da, er mwyn sicrhau newid cadarnhaol i bobl Cymru.”

 

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Mae angen gweithredu ar gostau tanwydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
Mae Darren Millar AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi gweithredwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sy'n wynebu costau tanwydd cynyddol ledled y Gogledd.Mae marchnadoedd byd-eang wedi gweld costau tanwydd yn cynyddu o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a sancsiyna

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree