Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cwestiynau'r Prif Weinidog: mae Rachel Reeves wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd - dylai ymddiswyddo

  • Tweet
Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Cwestiynau'r Prif Weinidog: mae Rachel Reeves wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd - dylai ymddiswyddo

Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, heriodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Prif Weinidog i roi sylw i gyllideb y Canghellor sy'n torri addewidion maniffesto Llafur, yn codi trethi, yn chwyddo'r wladwriaeth les ac i’w methiant i sefyll dros bobl Cymru.

Galwodd Darren Millar AS ar Rachel Reeves i ymddiswyddo am gamarwain y cyhoedd ar gyllid gwledydd Prydain a thorri addewid Llafur i beidio â chodi trethi ar bobl sy'n gweithio.

Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:

"Mae Rachel Reeves wedi dweud celwydd wrth y cyhoedd - dylai ymddiswyddo.

“Fe wnaeth Llafur addo beidio â chodi trethi ar bobl sy'n gweithio. Fe wnaethon nhw dorri eu haddewid yng nghyllideb y llynedd a gwneud hynny eto eleni, gan geisio esgusodi hyn trwy gamarwain y bobl ar gyflwr y pwrs cyhoeddus. Yr hyn a gafwyd mewn gwirionedd oedd cyllideb codi trethi i dalu am fwy o les.

“Os na all y Canghellor wneud yr hyn sy’n iawn ac ymddiswyddo, dylai'r Prif Weinidog roi'r sac iddi. Dyma'r hunllef cyn y Nadolig i weithwyr, pensiynwyr, cyflogwyr, cynilwyr a modurwyr, ac roedd yn gyllideb ar gyfer Stryd Budd-daliadau.

“Dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun i dorri trethi, torri gwariant, a chael Cymru i weithio.”

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Dydd Gwener, 7 Awst, 2026
Clwyd MS Darren Millar has welcomed Denbighshire County Council's decision to review its controversial blue cardboard recycling bags after personally raising residents' concerns with the Council's Chief Executive.The review follows months of complaints from residents who say the bags are not fit for

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree