Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, heriodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Prif Weinidog i ddileu eitemau gwariant costus Llywodraeth Cymru nad ydynt wedi'u datganoli, megis eu cynllun plannu coed yn Uganda, llysgenadaethau tramor, y comisiwn cyfansoddiadol a chyflawni cyfiawnder troseddol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ailadrodd galwadau am ddileu polisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, i roi pobl Cymru yn gyntaf ac i roi terfyn ar wariant ar dai, gofal iechyd a budd-daliadau ar gyfer mudwyr anghyfreithlon.
Ar ôl ei drafodaeth â'r Prif Weinidog, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Rhaid i Lafur Cymru roi terfyn ar eu gwariant gwastraffus ar feysydd heb eu datganoli fel eu polisi Cenedl Noddfa. Rhaid iddynt roi'r gorau i wario arian ar fudd-daliadau, tai a gofal iechyd ar gyfer mudwyr anghyfreithlon.
"Rhaid i ni beidio ag anghofio bod polisi Cenedl Noddfa Llafur wedi cael cefnogaeth lawn gan Blaid Cymru ac, yn wir, eu bod wedi gwthio am i'r polisi fynd hyd yn oed ymhellach.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir: rhaid dileu’r polisi Cenedl Noddfa, gan fod rhaid i bobl Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus ddod yn gyntaf."