Heddiw, yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi codi cyfres o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth y Ceidwadwyr Cymreig gyda'r Prif Weinidog, sy'n datgelu bod 38,374 o gleifion wedi marw wrth aros am driniaeth ers etholiad y Senedd ym mis Mai 2021, lle ffurfiodd Llafur Lywodraeth arall gyda chefnogaeth Plaid Cymru.
Addawodd Gweinidog Iechyd Llafur ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog, Eluned Morgan, ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd am driniaeth ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf (erbyn Mawrth 2023 ac eto erbyn Mawrth 2024), ond methodd â chyrraedd y targedau hyn ac maen nhw’n dal i fod heb eu cyrraedd. Yn Lloegr, mae'r amseroedd aros hir hyn wedi'u dileu i bob diben.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig unwaith eto wedi annog y Prif Weinidog i ddatgan argyfwng iechyd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros gormodol hyn am driniaeth yn y GIG yng Nghymru.
Meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae Llafur, gyda chefnogaeth arferol Plaid Cymru, wedi torri GIG Cymru. Ers etholiad diwethaf y Senedd, mae bron i ddeugain mil o gleifion wedi marw wrth aros am driniaeth y GIG - mae'n sgandal cenedlaethol.
"Yn hytrach na chanolbwyntio ar gleifion, dewisodd Llafur a Plaid ganolbwyntio ar y cyfansoddiad. Yn hytrach na chyflawni mwy o lawdriniaethau, fe ddewison nhw greu mwy o wleidyddion. Yn hytrach na chyflymu mynediad at ofal iechyd, fe wnaethon nhw ganolbwyntio ar derfynau cyflymder.
"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau’r Llywodraeth tuag at fynd i'r afael â'r amseroedd aros gormodol hyn yn y GIG, gan warantu na fydd unrhyw un yn gorfod aros mwy na blwyddyn am driniaeth."