Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, heriodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Prif Weinidog am y pwysau costau byw cynyddol sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru.
Mae'r dreth gyngor wedi codi’n sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, mae biliau dŵr wedi codi gannoedd o bunnoedd ac mae prisiau petrol a disel wedi cynyddu'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Beirniadodd Mr Millar y Prif Weinidog am gladdu ei phen yn y tywod, gan fethu â mynd i'r afael â'r pwysau ariannol sy'n taro teuluoedd ledled y wlad.
Dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:
"Mae costau byw yng Nghymru yn rhoi pwysau difrifol ar aelwydydd ac mae'r Prif Weinidog yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl.
"Fe wnaeth y Ceidwadwyr rewi'r dreth tanwydd am dros 15 mlynedd, ond nid yw'r Llywodraeth hon wedi gwneud dim i herio cynnydd arfaethedig Llywodraeth y DU. Yn hytrach, maen nhw'n gwneud dim wrth i gynghorau gynyddu’r dreth gyngor ac wrth i filiau cartrefi godi.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod mai'r ffordd orau o helpu pobl yw rhoi mwy o arian yn ôl yn eu pocedi. Dyna pam mae gennym ni gynllun credadwy i dorri ceiniog oddi ar dreth incwm, ymestyn gofal plant am ddim, capio codiadau treth gyngor a dileu treth stamp i roi hwb i'r economi a chael Cymru i weithio."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: