Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Cyfarfod cyhoeddus ar roi’r gorau i gludiant ysgol yn Llysfaen

  • Tweet
Dydd Mawrth, 13 Awst, 2024
  • Newyddion Lleol
Cyfarfod cyhoeddus ar roi’r gorau i gludiant ysgol yn Llysfaen

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog rhieni yn Llysfaen i fynychu cyfarfod cyhoeddus sydd wedi'i drefnu ynghylch penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i roi’r gorau i gludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ddysgwyr o'r pentref sy'n dymuno cael eu haddysg yn Ysgol Bryn Elian.

Mae Darren o’r farn bod penderfyniad yr awdurdod lleol yn ddiffygiol ac felly mae wedi trefnu cynnal cyfarfod cyhoeddus ar y cyd â Chyngor Cymuned Llysfaen ddydd Iau yma, 15 Awst, am 6:30pm yn Neuadd Bentref Llysfaen, LL29 8SS.

Fis diwethaf disgrifiodd y cynlluniau i gael gwared ar gludiant o'r cartref i'r ysgol fel rhai "cwbl annerbyniol" a dywedodd y byddai'n her sylweddol i deuluoedd lleol.

Yn dilyn cyhoeddi'r toriadau, dywedodd:

"Bydd llawer yn cael trafferth dod o hyd i drefniadau eraill a'u hariannu, yn enwedig o ystyried diffyg capasiti gwasanaethau bysiau lleol.

"Dydy’r llwybr rhwng Llysfaen ac Ysgol Bryn Elian ddim yn un hawdd ac mae'n peri peryglon, yn enwedig mewn tywydd garw ac o ystyried topograffi'r llwybr, a diffyg croesfan i gerddwyr ar Heol Llanelian.

"Er fy mod yn gwerthfawrogi bod yr awdurdod lleol yn gorfod ystyried goblygiadau cyllidebol trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol, mae'n amlwg bod hwn yn benderfyniad anghywir."

Gan annog pobl i ddod i'r cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon, dywedodd:

"Rydw i wedi estyn gwahoddiad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy anfon cynrychiolydd i fynychu'r cyfarfod, gwrando ar bryderon lleol, ac egluro safbwynt yr awdurdod lleol, ac ateb unrhyw gwestiynau a all godi.

"Mae'n bwysig bod rhieni'n lleisio’u barn ac yn mynegi eu pryderon. Mae pŵer pobl wedi gwrthdroi penderfyniadau awdurdodau lleol yn y gorffennol ac rwy'n obeithiol y gallwn, gyda nifer dda ohonom yn bresennol, berswadio Cyngor Sir Conwy i adolygu'r penderfyniad hwn."

You may also be interested in

Denbighshire’s decision on 20mph speed limit slammed

Denbighshire’s decision on 20mph speed limit slammed

Dydd Gwener, 13 Mehefin, 2025
Leader of the Welsh Conservatives and Clwyd West MS Darren Millar has accused Denbighshire County Council of “taking the easy option” by not reverting any of the 20mph roads back to a 30mph speed limit.There has been public outcry across Wales since the 20mph limit in built up areas was introduced b

Show only

  • Erthyglau
  • Newyddion Ewropeaidd
  • Newyddion Lleol
  • Newyddion o Holyrood

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree