Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cyhuddo cyngor o lusgo traed dros adolygiad 20mya

  • Tweet
Dydd Mercher, 3 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Cyhuddo cyngor o lusgo traed dros adolygiad 20mya

Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd yn rhwystredig efo ddiffyg cynnydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth adolygu ffyrdd 20mya ledled y sir.  

Ym mis Medi 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled y wlad.

Yn dilyn adolygiad o'i pholisi, rhoddodd Llywodraeth Cymru fwy o hyblygrwydd i gynghorau adolygu llwybrau penodol, ac mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys Wrecsam, mae rhai ffyrdd eisoes wedi dychwelyd yn ôl i fod yn rhai 30mya.

Fodd bynnag, mae trigolion Bwrdeistref Sirol Conwy yn dal i aros. 

Er bod y cyngor wedi cyhoeddi ym mis Ionawr ei fod wedi llunio rhestr flaenoriaeth o'r ffyrdd perthnasol a fyddai'n destun asesiad llawn, mae'r cynnydd wedi bod yn araf ers hynny. 

Ar ôl i Darren ysgrifennu at yr awdurdod lleol yn gofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa, cafodd wybod eu bod nhw wrthi'n cynnal asesiadau technegol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar hyn o bryd.

Nododd ymateb y Cyngor ymhellach:

"Rydym wedi anfon holiadur at yr holl randdeiliaid perthnasol a thrigolion y rhannau o'r ffyrdd sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Ein bwriad yw cwblhau'r asesiadau technegol ac adolygu'r ymatebion ymgysylltu erbyn dechrau i ganol mis Rhagfyr a phenderfynu ar ba rannau o'r ffyrdd fydd yn destun proses TRO (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig). 

"Byddwn yn dechrau'r broses TRO ym mis Ionawr 2026. Ni allaf gynnig amserlen ar gyfer y broses TRO ar hyn o bryd gan y byddai hyn yn dibynnu ar nifer y rhannau o’r ffyrdd ac a ddaw unrhyw wrthwynebiadau i law." 

Meddai Darren: 

"Dwi erioed wedi dod ar draws proses mor hirfaith.

"Fis nesaf, bydd yn flwyddyn ers iddyn nhw gyhoeddi eu bod wedi llunio rhestr flaenoriaeth, ac eto maen nhw'n dal ymhell o wybod pa rannau o’r ffyrdd fydd yn destun proses TRO.

"Mae awdurdodau lleol eraill eisoes wedi adfer llawer o ffyrdd i fod yn rhai 30mya. Os gallan nhw wneud hynny, pam na all Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy?

"Ni ddylai cymaint o'n ffyrdd erioed fod wedi eu pennu'n rhai 20mya yn y lle cyntaf, ac mae pobl yn daer am weld synnwyr cyffredin unwaith eto.

"Rwy'n annog y Cyngor i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn." 

You may also be interested in

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Denbighshire’s recycling bags and bins review welcomed

Dydd Gwener, 7 Awst, 2026
Clwyd MS Darren Millar has welcomed Denbighshire County Council's decision to review its controversial blue cardboard recycling bags after personally raising residents' concerns with the Council's Chief Executive.The review follows months of complaints from residents who say the bags are not fit for

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree