
Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn annog ysgolion a sefydliadau cymunedol eraill yn Sir Conwy a Sir Ddinbych i wneud cais i Gronfa PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd pêl-droed rheolaidd.
Mae Cronfa PAWB y Gymdeithas Bêl-droed wedi ailagor ar gyfer ceisiadau ac mae Darren yn awyddus i weld pobl ifanc yr etholaeth yn elwa.
Meddai Darren:
“Mae cronfa PAWB yn cefnogi pobl ifanc ledled Cymru i fanteisio ar gyfleoedd pêl-droed rheolaidd. Gydol tymor 2023/24, fe wnaeth y gronfa gefnogi 339 o deuluoedd gan ddyfarnu hyd at £50,000 er mwyn helpu i wneud y gamp yn fwy hygyrch. Yn ogystal â hyn, mae panel Cronfa PAWB y Gymdeithas Bêl-droed wedi dyfarnu dros £35,000 hyd yma yn ystod tymor 2024/25.
“Mae modd gwneud cais am y gronfa hon, ar ran unrhyw chwaraewr ifanc, i'w cefnogi a'u cynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd a/neu offer pêl-droed. Mae'r cais ar agor i bobl 5–18 oed sy'n byw yng Nghymru a bydd panel cenedlaethol yn dod i benderfyniad trwy ddefnyddio gwybodaeth y cais i asesu pob achos.
“Dwi'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd a fyddai'n elwa ar y gronfa hon, felly rwy'n annog clybiau, ysgolion a sefydliadau cymunedol eraill yng Nghonwy a Sir Ddinbych i wneud cais.”
Mae'r eitemau canlynol yn gymwys i gael cymorth drwy'r gronfa:
- Ffioedd ymaelodi clybiau lleol
- Citiau chwarae/clwb
- Cyfarpar ar gyfer amhariad penodol ee gogls chwaraeon
- Costau teithio e.e. costau trenau, bysiau neu dacsi i leoliadau hyfforddi a gemau
Bydd y gronfa yn cefnogi’r plant a theuluoedd mwyaf anghenus, a bydd yn cefnogi derbynwyr yn flynyddol i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd pêl-droed rheolaidd.
MEINI PRAWF:
- Rhaid i'r chwaraewr fyw yng Nghymru.
- Rhaid i'r chwaraewr gael ei enwebu gan Glwb/Sefydliad.
- Rhaid i'r Clwb/Sefydliad fod wedi'i leoli yng Nghymru.
- Rhaid i'r chwaraewr fod rhwng 5 ac 18 oed.
- Rhaid i'r unigolyn chwarae i glwb neu sefydliad yng Nghymru.
- Gall ysgolion yng Nghymru wneud cais ar ran disgybl neu ddisgyblion (sylwer: ni fydd arian ar gyfer citiau chwarae tîm yr ysgol).
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa ar gael yma Cronfa PAWB - PAWB Cymru