
Wrth bleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru ddoe, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, nad yw pobl Cymru yn cael gwerth am arian.
Dywedodd fod arian yn cael ei wastraffu ac na fydd y gyllideb yn newid dim byd.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn siomi pobl Cymru, boed y gwasanaeth iechyd, gyda'r sefyllfa echrydus lle mae dros 20,000 o bobl yn dal i aros dwy flynedd a mwy am eu triniaeth, o gymharu â dim ond llai na 150 dros y ffin yn Lloegr, neu ynghylch yr economi, lle mae pobl yn â’r pecynnau cyflog is hynny adref neu’n talu'r cyfraddau busnes gwaethaf, neu ynghylch y sefyllfa yn ein hysgolion, lle nad yw ein pobl ifanc yn cael addysg o'r ansawdd y maent yn ei haeddu, mae Cymru'n cael ei siomi.
“Mae'n rhaid i'r pethau hyn newid, ac nid ydyn nhw’n mynd i newid yn ôl yr hyn rydym ni wedi’i weld a gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw.
“Mae ein harian yn cael ei daflu i ffwrdd. Gwyddom fod cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu gwastraffu ar faes awyr wedi’i wladoli, sy'n gwneud colled ac na ddylai fod wedi'i wladoli yn y lle cyntaf; mae gennym gwmni trenau Trafnidiaeth Cymru wedi'i wladoli, un o'r cwmnïau trenau sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gan golli cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn; gwariwyd £32 miliwn ar derfyn cyflymder 20mya diofyn ledled y wlad y mae cannoedd o filoedd o bobl yn ei wrthwynebu.”
Ychwanegodd:
“Beth a welwn yn y gyllideb hon? Mwy o'r un peth. Mwy o drethu gan Lafur a gwario a gwastraffu ein harian y buom yn gweithio’n galed amdano. Talu mwy, cael llai. Cuddio a chelu. Cannoedd o filiynau yn dod i mewn, a channoedd o filiynau yn mynd yn ôl i lawr yr M4 mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.”
Pwysleisiodd Darren y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno lwfans tanwydd y gaeaf yng Nghymru i gefnogi pensiynwyr, yn dileu'r ardrethi busnes i fusnesau bach, yn cefnogi'r stryd fawr ac yn buddsoddi ynddi, yn hybu'r diwydiant twristiaeth; drwy gael gwared ar y dreth dwristiaeth, a chael gwared ar y "cyflymder diofyn 20 mya chwerthinllyd”.
“Byddem yn cael gwared ar rai o'r pethau chwerthinllyd hynny yr ydych yn gwario arian arnynt: mwy o fiwrocratiaid; holl gostau diwygio'r Senedd; y gwres a’r golau rydych yn talu amdanynt yn adeiladau Llywodraeth Cymru sydd bron yn wag ledled y wlad; eich polisi cyfiawnder fel y’i gelwir, nad yw wedi'i ddatganoli hyd yn oed; miliynau ar swyddfeydd tramor; cynllun incwm sylfaenol, sy'n rhoi £19,000 y flwyddyn i bobl hyd yn oed os ydyn nhw'n eistedd ar eu pen olau yn gwneud dim byd o gwbl; undebau yn cael miliynau.
“A oes unrhyw un o'r rheini yn mynd i drwsio cyfradd diweithdra Cymru? A fydd unrhyw un o'r rheini yn trwsio ein hysgolion? A fydd unrhyw un o’r rheini yn darparu’r gwasanaethau gwell y mae angen i ni eu gweld yn ein hysbytai? Dim un ddimai goch, a dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, a gobeithio y bydd pawb arall yn gwneud hynny hefyd.”
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: