Mae Darren Millar, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, wedi diolch i Optegydd yn ei etholaeth am ddarparu amrywiaeth mor eang o wasanaethau ar ôl ymweld â nhw yn ddiweddar.
Ymwelodd Darren â Smith Family Opticians yn Rhuthun gydag Optometreg Cymru yn gynharach y mis hwn.
Sefydlwyd y busnes yn ôl yn y 19eg ganrif dan yr enw J Saum & Co.
Daeth John a Barbara Smith yn rhan o’r busnes ym 1975 ac mae Kevin a Lorraine, y genhedlaeth nesaf, bellach yn gweithio i ddatblygu’r busnes ymhellach.
Yn ystod ei ymweliad, trafododd Darren y gwasanaethau sydd ar gael o dan gontract gofal llygaid Cymru, diolchodd i staff a soniodd am ba mor bwysig yw cael optegydd ar y stryd fawr.
Meddai:
"Mae optegydd yn gwneud cyfraniad allweddol at gynnal a gwella iechyd llygaid, gan gynnig ystod eang o wasanaethau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i werthu sbectol yn unig.
"Ar ôl ymweld â Smith Family Opticians flwyddyn neu ddwy yn ôl, roeddwn i eisoes yn ymwybodol o'r gwasanaethau gwych maen nhw'n eu darparu i'r gymuned leol, ond roedd hi’n wych cael dal i fyny â nhw i ddarganfod sut maen nhw wedi ehangu eu harlwy ers i mi fod yno ddiwethaf.
"Yn ogystal â chynnal archwiliadau llygaid y GIG a Phreifat i bobl o bob oedran, maen nhw hefyd yn darparu Archwiliadau Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru (archwiliadau manylach a ddarperir yn rhad ac am ddim drwy 'Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru'), a sgrinio am glawcoma, sy'n rhan o'u harchwiliad llygaid arferol.
"Maen nhw hefyd yn cynnal ffotograffiaeth retina ddigidol (yn eu cangen yn yr Wyddgrug), gan ganiatáu iddyn nhw gadw cofnod parhaol o ymddangosiad y meinweoedd yng nghefn y llygad, gan gynorthwyo i roi diagnosis cynharach o glefyd y llygaid, profion golwg lliw a sgrinio am retinopathi diabetig.
"Maen nhw’n rhan o Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru ar gyfer asesu a chyflenwi cymhorthion chwyddo - optegol a, lle bo'n berthnasol, electronig, ac yn cynnal gwasanaeth atgyweirio, gosod ac addasu sbectol, a chyflenwi a gosod lensys.
Ychwanegodd:
"Mae'r optegydd teuluol hwn yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir, ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud bob dydd - nid yn unig wrth ofalu am ein llygaid, ond hefyd o ran ysgafnhau'r pwysau ar feddygon teulu lleol ac Unedau Mân Anafiadau.
"Diolch i'w gwybodaeth arbenigol, eu hadnoddau diagnostig datblygedig a'u gwasanaeth tosturiol, mae llawer o gleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu llygaid heb orfod ymweld â'u meddyg teulu neu eu hadran Achosion Brys lleol.
"Mae'n galonogol gwybod y gallwn ni ddibynnu ar dîm lleol dibynadwy sy'n cyfuno rhagoriaeth glinigol a dull personol, cyfeillgar, ac rwy'n eu cymeradwyo am eu gwaith gwych."
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn Smith Family Opticians neu i drefnu apwyntiad, ewch i Smith Family Opticians - Online neu ffoniwch 01824 704334.