Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Cymru sydd a’r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain

  • Tweet
Dydd Iau, 1 Mai, 2025
  • Newyddion Lleol
Cymru sydd a’r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain

Cynnig gofal plant Cymru yw’r gwaethaf ym Mhrydain, ac mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi erfyn ar y Prif Weinidog i roi'r cymorth i rieni sy'n gweithio gyda chostau’r gofal plant sydd ei angen arnynt.

Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Darren fod rhieni sy’n gweithio’n galed o Gymru yn symud dros y ffin i Loegr yn fwriadol lle gallant gael cymorth gofal plant am ddim i fabanod o naw mis oed.

Felly gofynnodd i’r Prif Weinidog wella'r cynnig gofal plant yng Nghymru.

Meddai Darren;

“Brif Weinidog, canfu gwaith ymchwil gan Coram Family and Childcare fod rhiant plentyn o dan ddwy oed yng Nghymru yn gwario £4,400 yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd i anfon ei blentyn i feithrinfa yn rhan-amser na thros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n £1,700 yn fwy y flwyddyn na'r sefyllfa yn yr Alban ar hyn o bryd. Nawr, mae hyn oherwydd bod rhieni yng Nghymru yn cael llai o gymorth gyda chostau gofal plant nag unrhyw le arall ym Mhrydain.

“Allwch chi esbonio i ni heddiw, Prif Weinidog, pam nad yw'r Blaid Lafur yng Nghymru yn cefnogi nac yn gwerthfawrogi mamau a thadau sy'n gweithio'n galed trwy roi mynediad iddyn nhw at fwy o gymorth gyda gofal plant am ddim?”

Ar ôl i'r Prif Weinidog geisio tynnu sylw at wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, ychwanegodd Darren:

“Yn Lloegr, fe allwch chi gael cymorth gofal plant am ddim i fabanod o naw mis oed. Nid ydych chi'n cael y cymorth hwnnw os ydych chi'n byw yng Nghymru. Yng Nghymru, nid yw'r mwyafrif o bobl yn cael unrhyw gymorth ariannol gyda chostau gofal plant nes bod eu plentyn yn dair oed, ac mae'r bwlch ariannol rhwng costau gofal plant yng Nghymru a Lloegr yn debygol o gynyddu'n sylweddol gan eu bod nhw'n mynd i ymestyn y cynnig a dyblu nifer yr oriau am ddim i blant dan dair oed ym mis Medi eleni.

“Derbyniodd eich Llywodraeth Cymru chi £140 miliwn mewn cyllid canlyniadol i'ch caniatáu i ymestyn eich cynnig a'i wneud o leiaf yr un mor gyfartal â'r cynnig dros y ffin yn Lloegr. Beth ydych chi wedi ei wneud gyda'r arian hwnnw, oherwydd mae'n amlwg nad ydych chi wedi ei fuddsoddi mewn gofal plant?”

Ychwanegodd:

“Brif Weinidog, nid wyf i'n falch o'r ffaith bod gennym ni rieni sy'n gweithio o Gymru sy'n symud yn fwriadol i Loegr er mwyn cael cymorth gyda'u cyllid o ran gofal plant. Mae'n anghywir bod rhieni yma yn gorfod talu, ar gyfartaledd, miloedd o bunnoedd yn fwy na thros y ffin. Y gwir yw hyn: rhieni yng Nghymru sydd â'r cyflogau isaf, y costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr.”

Wrth siarad ar ôl drafodaeth, dywedodd Darren:

"O dan Lafur, mae rhieni mewn sefyllfa waeth yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU ond maen nhw’n wynebu'r costau gofal plant uchaf. Bydd Llywodraeth Geidwadol Cymru yn rhoi mwy o gymorth i rieni sy'n gweithio'n galed fel rhan o'n cynlluniau i drwsio Cymru."

You may also be interested in

Unique golf business praised by MS

Unique golf business praised by MS

Dydd Iau, 22 Mai, 2025
Leader of the Welsh Conservatives and Clwyd West MS Darren Millar has visited a unique business in his constituency which is thriving following a move to new premises earlier this year. Recently, Darren dropped in to Encore Golf Supplies, which relocated to Tir Llwyd Industrial Estate in K

Show only

  • Erthyglau
  • Newyddion Ewropeaidd
  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree