Er bod y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael miloedd o bunnoedd ar gyfer gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer 2025/6, nid yw Cyngor Sir Ddinbych wedi cael yr un geiniog gan nad oedden nhw wedi gwneud cais am y grantiau hael gan Lywodraeth Cymru.
Fis diwethaf, cyflwynodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, Gwestiwn Ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, yn gofyn am gadarnhad o faint o gyllid grant mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu eleni i gefnogi costau gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn ôl ardal awdurdod lleol.
Mae ymateb bellach wedi dod i law ac roedd yn siomedig o glywed nad yw Cyngor Sir Ddinbych wedi elwa ar y cyllid hwn gan nad oedden nhw wedi gwneud cais.
Yn y cyfamser, cafodd awdurdodau lleol cyfagos yn y Gogledd y symiau canlynol: Conwy £300,000, Sir y Fflint £143,182, Ynys Môn £166,600, Wrecsam £999,977, a Gwynedd £105,000.
O'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dim ond wyth, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, oedd heb wneud cais am grant.
Yr awdurdod lleol oedd yr unig gyngor yn y Gogledd oedd heb wneud cais.
Meddai Darren:
"O ystyried bod yr holl awdurdodau lleol eraill yn y Gogledd wedi llwyddo i wneud cais am y grantiau sylweddol hyn, mae’n siomedig ac yn peri pryder nad oedd Cyngor Sir Ddinbych hyd yn oed wedi trafferthu cyflwyno cais.
"Mae'r Prif Weithredwr a'r Arweinydd yn dweud wrthym yn gyson eu bod mewn trafferthion ariannol, ond eto maen nhw'n colli’r cyfle gwych hwn.
"Rwy'n siŵr y bydd trethdalwyr yn y sir mor flin â fi eu bod wedi colli allan ar filoedd o bunnoedd ac eisiau gwybod pam na chafodd cais ei gyflwyno.
"Ar adeg pan mae pob ceiniog yn cyfrif, mae anwybyddu'r cyfle hwn yn gwneud cam â thrigolion lleol."
Meddai Arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Brian Jones:
"Dyma enghraifft arall o Gyngor Sir Ddinbych, sy'n cael ei redeg gan Llafur a Phlaid Cymru, yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl pan fo cyllid sylweddol ar gael i wella elfennau o'u Strategaeth Amgylcheddol Gorfforaethol.
"Mae hefyd yn codi cwestiwn ynghylch Uwch Reolwyr y Cyngor a'u diffyg ymwybyddiaeth o ran cyfleoedd ar gyfer cyllid grant eco."
