Yn y Senedd yr wythnos hon, croesawodd AS Clwyd, Darren Millar, y penderfyniad i oedi cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain.
Roedd Darren wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddweud y dylai unrhyw barc cenedlaethol arfaethedig fod o amgylch ffiniau presennol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn hytrach na'r ardal llawer mwy a gynigiwyd yn wreiddiol.
Galwodd Darren ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei chynlluniau, gan annog gweinidogion i flaenoriaethu buddsoddiad mewn tirweddau dynodedig presennol a diwygio sut mae parciau cenedlaethol yn cael eu rheoli.
Cododd Darren bryderon hefyd am y gost o sefydlu awdurdod parc cenedlaethol newydd a'r diffyg atebolrwydd democrataidd uniongyrchol, gan awgrymu y gallai awdurdodau lleol gynnig ffordd fwy effeithlon o reoli tirweddau dynodedig.
Pwysleisiodd fod yn rhaid i amddiffyn harddwch naturiol yr ardal fynd law yn llaw â chefnogi cymunedau lleol, tirfeddianwyr cyfrifol a thwristiaeth. Galwodd am fwy o fuddsoddiad yn yr AHNE bresennol i wella meysydd parcio, cynnal llwybrau troed a darparu cefnogaeth i geidwaid.
Meddai Darren:
"Rwy'n falch o weld bod y cynigion presennol ar gyfer parc cenedlaethol yn y Gogledd-ddwyrain wedi'u rhoi o’r neilltu.
"Rydw i bob amser wedi cefnogi gwarchod harddwch eithriadol yn y Gogledd, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein tirweddau dynodedig yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol mewn ffordd sydd o fudd i'n cymunedau.
"Hoffwn weld mwy o fuddsoddiad wedi'i gyfeirio tuag at AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wella meysydd parcio a llwybrau troed.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar a oes ffyrdd mwy effeithlon o reoli ein tirweddau dynodedig.
"Rhaid i weinidogion fod yn barod i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer y Gogledd-ddwyrain, hyd yn oed os yw hynny'n golygu rhoi'r gorau i’r cynigion parc cenedlaethol yn gyfan gwbl."
