Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Cytundeb cyllideb Plaid a Llafur yn parhau i adael Cymru i lawr

  • Tweet
  • Share
Dydd Mawrth, 13 Hydref, 2026
  • Newyddion Lleol
Darren Millar AS yn y Siambr

Wrth sôn am y cytundeb ar y Gyllideb Atodol rhwng Llafur a Plaid Cymru, dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:

"Er ein bod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, dim ond parhad yw hwn o'r un dull cyllideb sydd wedi methu gan y bartneriaeth Llafur-Plaid sydd wedi bod yn gadael pobl Cymru i lawr ers degawdau.

"Mae angen newid mwy sylfaenol i gyllideb Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros hiraf y GIG, y safonau addysgol gwaethaf a'r cyflogau isaf ym Mhrydain.

"Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Plaid Cymru roi'r gorau i wastraffu arian dramor y dylid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru."

Meddai Sam Rowlands AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid:

"Mae'r gyllideb atodol hon yn llaesu dwylo o gwmpas ymylon cyllideb sy'n methu â chyflawni i bobl Cymru.

"Er ein bod yn croesawu arian i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ar ôl 30 mlynedd o Llafur a Plaid Cymru, mae angen newid cyfeiriad arnom ni i danio economi Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaethau cyhoeddus."

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Cynlluniau Parc Cenedlaethol wedi'u rhoi o’r neilltu

Dydd Iau, 15 Hydref, 2026
Yn y Senedd yr wythnos hon, croesawodd AS Clwyd, Darren Millar, y penderfyniad i oedi cynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain.Roedd Darren wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddweud y dylai unrhyw barc cenedlaeth

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree