Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Orllewin Clwyd

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cymorthfeydd
  • Dolenni
  • Cysylltu â Darren

Darren Millar yn cefnogi deiseb dioddefwr am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol

  • Tweet
Dydd Iau, 30 Ionawr, 2025
  • Newyddion Lleol
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi cefnogi deiseb gan ddioddefwr gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol (grwmio), yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau o’r fath. Mae'r ymgyrchydd Emily Vaughan sydd wedi siarad ac ysgrifennu am ei phrofiadau yn cael ei masnachu a'i hecsbloetio gan gangiau yng Nghymru, wedi lansio deiseb i’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad ledled Cymru i gamfanteisio rhywiol gan gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol. Mae'r Ceidwadwy

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi cefnogi deiseb gan ddioddefwr gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol (grwmio), yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau o’r fath.

Mae'r ymgyrchydd Emily Vaughan sydd wedi siarad ac ysgrifennu am ei phrofiadau yn cael ei masnachu a'i hecsbloetio gan gangiau yng Nghymru, wedi lansio deiseb i’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad ledled Cymru i gamfanteisio rhywiol gan gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r galwadau ac yn annog aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru i arwyddo'r ddeiseb.

Meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:

"Mae tystiolaeth glir a gofidus o gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol yn camfanteisio’n rhywiol ar ferched ifanc yma yng Nghymru ond yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod yw maint llawn y broblem.

"Mae Emily a dioddefwyr dewr eraill yn haeddu ymchwiliad trylwyr a phellgyrhaeddol i’r broblem hon a’n bod yn dwyn i gyfrif cyflawnwyr troseddau o'r fath, a dyna pam rydyn ni’n cefnogi ei deiseb am ymchwiliad ledled Cymru.

"Mae'n rhaid i wleidyddion roi gwleidyddiaeth plaid o'r neilltu, dod at ei gilydd i gefnogi dioddefwyr camdriniaeth, a sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y camfanteisio rhywiol erchyll y mae Emily ac eraill wedi ei ddioddef.

"Gwyddom o'r hyn sydd eisoes wedi dod i amlwg yn Abertawe ac mewn mannau eraill yn y DU, nad yw derbyn sicrwydd yr heddlu a chynghorau lleol nad yw gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yn eu hardaloedd yn ddigon da.

"Dim ond ymchwiliad ledled Cymru fydd yn gallu sicrhau bod digon o sylw a ffocws yn cael ei roi i'r mater yma, ac y gall ein plant gael eu hamddiffyn rhag ymddygiad rheibus."

Mae'r ddeiseb, a gyflwynwyd gan Emily Vaughan, dioddefwr gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru, yn darllen fel a ganlyn:

Teitl - Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwiliad Cymru gyfan i gamfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Cefndir - Roeddwn i’n ddioddefwr camfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol. Rwy’n gwybod bod yr arfer hwn yn fwy cyffredin nag yr oedd yr awdurdodau’n ei gydnabod. Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i weld pa mor eang yw’r broblem ac i gefnogi dioddefwyr yng Nghymru.

 

 


 

You may also be interested in

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Welsh Labour "Sat on their hands" as farmers force UK Government u-turn

Dydd Mercher, 24 Rhagfyr, 2025
Welsh Conservatives have accused Welsh Labour of rank hypocrisy after Labour ministers in Westminster were forced into watering down controversial inheritance tax changes affecting farms, changes which Welsh Labour MPs had previously backed in full.After months of sustained pressure from farmers, fa

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar, 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HT. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Darren Millar AS Gweithio dros Orllewin Clwyd. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree