
Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, wedi galw am weithredu brys i ddatrys anhrefn parcio ceir mewn ysbytai ar hyd a lled y gogledd, ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gynghori cleifion i ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ofyn i aelod o'r teulu ddod â nhw a’u gadael ar gyfer apwyntiadau ysbyty.
Mae Darren wedi bod yn pwyso ar y Bwrdd Iechyd i gyflwyno cyfleusterau parcio ychwanegol yn eu safleoedd ysbyty ers sawl blwyddyn, a gofynnodd am ddiweddariad gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn ystod cyfarfod diweddar.
Meddai Darren:
“Mae etholwyr rhwystredig yn cysylltu â mi'n rheolaidd i gwyno am brinder llefydd parcio mewn ysbytai lleol."
Ychwanegodd:
"Rydyn ni wedi cael blynyddoedd o addewidion am welliannau i feysydd parcio ysbytai'r gogledd, dim ond i weld y cynlluniau hynny'n mynd i'r gwellt.
“Mae cynlluniau parcio a theithio a oedd yn gweithio wedi cael eu dileu, a chynlluniau ar gyfer meysydd parcio aml-lawr wedi cael eu diddymu.
“Mae apwyntiadau ysbyty yn ddigon o straen i gleifion a'u hanwyliaid heb fod angen iddynt ddelio gyda thrafferthion dod o hyd i le parcio.
“Rhaid i Betsi fynd i'r afael â'r broblem hon er lles cleifion, ymwelwyr a staff.”