Ar ôl galw ar Lywodraeth Cymru i roi Bathodyn Glas am oes i bobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n dirywio, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog deiliaid Bathodyn Glas i ddarparu tystiolaeth hanfodol i gefnogi newid mawr ei angen.
Os oes gennych chi ddiagnosis gydol oes sy'n golygu bod angen Bathodyn Glas arnoch, neu os ydych chi'n gofalu am rywun felly, mae STAND (Stronger Together for Additional Needs and Disabilities) North Wales CIC eisiau clywed gennych chi.
Mae eu deiseb, ‘Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes', wedi bod yn cael ei hystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd ers bron i ddwy flynedd ac mae disgwyl iddi gael ei thrafod eto maes o law.
Mae'r system Bathodyn Glas bresennol yn rhoi beichiau diangen ac ailadroddus ar unigolion y mae eu cyflyrau'n barhaol ac na fyddant yn gwella.
Mae STAND CIC yn credu bod angen gwneud y newidiadau a gynigir yn eu deiseb ar unwaith.
Felly, mae Darren yn annog y rhai sydd â diagnosis gydol oes sy'n golygu bod angen Bathodyn Glas arnyn nhw, neu sy’n gofalu am rywun felly, i ymateb i'r arolwg.
Meddai:
"Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn rheolaidd ynghylch y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu wrth geisio adnewyddu eu Bathodyn Glas, felly rydw i wedi galw dro ar ôl tro ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bathodyn Glas am oes i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n dirywio.
"Mae gorfodi deiliaid Bathodyn Glas i ailymgeisio am eu Bathodynnau bob ychydig flynyddoedd yn creu biwrocratiaeth ddiangen. Mae angen mwy o synnwyr cyffredin arnom ni.
"Rwy'n cefnogi'n fawr yr holl waith mae STAND CIC yn ei wneud i wthio am y newid mawr ei angen hwn, ond, os ydyn nhw am sicrhau'r canlyniad maen nhw ei eisiau, mae angen iddyn nhw gasglu cymaint o dystiolaeth â phosibl. Felly, rwy'n annog pobl i ymateb i'w harolwg yn gyflym gan fod amserlen fer iawn i gasglu'r wybodaeth hon - bydd yr arolwg yn cau ddydd Sul 7 Medi."
I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i: https://www.surveymonkey.com/r/DHKQ255