Skip to main content
Logo icon
Darren Millar

Main navigation

  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
Logo icon
Darren Millar

Digwyddiad y Senedd yn dathlu doniau ifanc y genedl

  • Tweet
Dydd Mawrth, 21 Hydref, 2025
  • Newyddion Lleol
Senedd Event Celebrates Talent of Welsh Youth
Senedd Event Celebrates Talent of Welsh Youth
Senedd Event Celebrates Talent of Welsh Youth

Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cynnal digwyddiad gwobrwyo arbennig yn y Senedd, ar gyfer Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Daeth Aelodau o'r Senedd, aelodau o'r Cwmni a gwesteion eraill at ei gilydd ddydd Mercher 15 Hydref i glywed mwy am y Cwmni a chydnabod gwaith rhai o'r unigolion dawnus sydd wedi cael cefnogaeth.

Yn ystod y digwyddiad, clywodd y mynychwyr sgyrsiau a chyflwyniadau gan yr artist tirluniau Peter Kettle, y dylunydd ffasiwn Rosario Spezio a'r awdur Adam Hart, a gwnaethant hefyd fwynhau perfformiadau lleisiol gan fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cyflwynwyd gwobrau i sawl unigolyn dawnus hefyd.

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 fel Urdd Lifrai Cymru, gyda'r nod o hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru.

Yn 2013, ar ôl derbyn Siarter Frenhinol (sef yr unig gwmni y tu allan i Lundain i ddal y statws hwn), rhoddwyd ei enw presennol i'r Cwmni.

Mae'r Cwmni'n rhoi gwerth £40,000 o wobrau ac ysgoloriaethau bob blwyddyn, gan gynnwys ysgoloriaethau teithio, gwobrau galwedigaethol, gwobrau gwella rhifedd a gwobrau teithio cyfreithiol a newyddiaduraeth, gyda'r nod o gefnogi doniau newydd Cymreig.

Mae gwobrau wedi'u cyflwyno i rai mewn ysgolion, prifysgolion, colegau technegol, prentisiaethau a'r lluoedd arfog.

Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:

“Roedd hi'n bleser mawr cynnal y digwyddiad hwn yn y Senedd, a oedd yn anad dim yn ddathliad o ddoniau Cymreig.

“Mae'r Cwmni yn gwneud gwaith gwych o gefnogi doniau newydd, boed trwy gyfleoedd rhwydweithio, hyrwyddo sgiliau ac addysg neu drwy wobrau ariannol.

“Dylai eu gwaith fod yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom gadw llygad am ddoniau ifanc, a gwneud yr hyn allwn ni i sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfleoedd haeddiannol i ffynnu.

“Edrychaf ymlaen at weld gwaith y Cwmni yn parhau i ffynnu ymhell i'r dyfodol!”

You may also be interested in

Darren Millar AS yn y Siambr

Mae angen gweithredu ar gostau tanwydd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Dydd Llun, 5 Hydref, 2026
Mae Darren Millar AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi gweithredwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sy'n wynebu costau tanwydd cynyddol ledled y Gogledd.Mae marchnadoedd byd-eang wedi gweld costau tanwydd yn cynyddu o ganlyniad i ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a sancsiyna

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree