Skip to main content

Darren Millar AS

Gweithio dros Glwyd

Main navigation

  • Home
  • Cefndir Darren
  • Gorllewin Clwyd
  • Newyddion
  • Cysylltu â Darren
  • Campaigns

Diogelu tenantiaid a landlordiaid rhag 'cynaeafu hawliadau’ 

  • Tweet
Dydd Mercher, 18 Mawrth, 2026
  • Newyddion Lleol
Protect tenants and landlords from 'claim farming' 

Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn poeni bod tuedd newydd o gynaeafu hawliadau yn effeithio ar denantiaid a landlordiaid yng Nghymru ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau yn erbyn yr arfer.

Mae cynaeafu hawliadau yn cynnwys cwmnïau trydydd parti, a elwir yn "gynaeafwyr hawliadau" neu’n Gwmnïau Rheoli Hawliadau (CMCs), sy'n targedu tenantiaid yn ddidostur gan eu hannog i wneud hawliadau cyfreithiol yn erbyn eu landlord am atgyweiriadau ac iawndal.

Gan siarad yn y Datganiad Busnes yn y Senedd ddoe, rhybuddiodd Darren fod y duedd, a ddechreuodd yn y dinasoedd mawr, bellach yn dod yn fwy cyffredin ledled Cymru.

Wrth alw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater, dywedodd:

“Fe ddaeth i'm sylw fod tuedd gynyddol o gynaeafu hawliadau yn digwydd yng Nghymru

"Rwy'n bryderus iawn y bydd hyn yn rhoi pwysau pellach eto ar y farchnad dai, sy'n golygu y bydd llai o dai ar gael am brisiau fforddiadwy i'w rhentu.#

"Fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â'r mater penodol hwn yng Nghymru, i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn tenantiaid, ac yn amddiffyn landlordiaid.

Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd Jane Hutt AS:

“Nid wyf i'n ymwybodol o hyn. Yn amlwg, rydym yn gweithio yn glòs iawn gyda'r sector rhentu preifat a Rhentu Doeth Cymru. Mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ddiddordeb ynddo, o ran unrhyw enghreifftiau sydd gennych chi y gellir eu rhannu nhw.”

Gan siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:

"Mae Cymru eisoes yn profi argyfwng tai ac os nad yw'r mathau hyn o arferion yn cael eu rheoli, gallent arwain at hyd yn oed lai o eiddo ar gael i'w rentu.

"Mae hon yn broblem ddifrifol y dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai fynd i’r afael â hi, ac rwy'n ei hannog i wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn landlordiaid a thenantiaid rhag yr arfer hwn."

 

Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod:

You may also be interested in

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

MS warns against introduction of tourism tax in Conwy

Dydd Gwener, 15 Mai, 2026
Responding to news that Conwy County Council is set to launch an £18,000 public consultation on plans to introduce a Visitor Levy in the County Borough, Clwyd MS Darren Millar has hit out at the devastating impact that a tourism tax could have on the local economy.A law introduced by the previous We

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar AS Gweithio dros Glwyd

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar AS o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar AS yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree