Skip to main content

Darren Millar

Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Diwrnod Atal Strôc – Annog pobl i gael prawf pwysedd gwaed

  • Tweet
Dydd Iau, 30 Ionawr, 2025
  • Newyddion Lleol
Diwrnod Atal Strôc – Annog pobl i gael prawf pwysedd gwaed

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn annog pobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych i gael prawf pwysedd gwaed yn rheolaidd.

Heddiw (30 Ionawr) yw Diwrnod Atal Strôc 2025 ac eleni mae'r ffocws ar bwysedd gwaed uchel, y ffactor risg mwyaf ar gyfer strôc.

Meddai Darren:

"Mae pwysedd gwaed uchel yn chwarae ei ran mewn tua hanner yr achosion o strôc, a dyna pam mae'r Gymdeithas Strôc yn annog pobl i gael prawf pwysedd gwaed yn rheolaidd.

"Gall y rhai sydd â darlleniadau uchel geisio lleihau eu pwysedd gwaed trwy leihau faint o halen maen nhw’n ei ddefnyddio, ymarfer corff yn rheolaidd, ac adolygu eu defnydd o alcohol, a gall smygwyr dorri nôl neu roi'r gorau iddi yn llwyr."

Ychwanegodd:

"Mae strôc yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei atal, gan ladd celloedd yr ymennydd. Gall niwed i'r ymennydd effeithio ar sut mae'r corff yn gweithio. Gall hefyd newid sut rydych chi'n meddwl ac yn teimlo. Mae effeithiau strôc yn dibynnu ar lle mae’n digwydd yn yr ymennydd, a pha mor fawr yw'r ardal sydd wedi'i difrodi.

"Mae strôc yn gallu newid bywyd. Gall ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran ac mae'n effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n hollbwysig felly ein bod yn cymryd camau i'w atal lle y gallwn ni, felly ewch ati i drefnu prawf pwysedd gwaed - gallai achub eich bywyd."

Dywedodd Juliet Bouverie OBE, Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Strôc:

"Rydyn ni’n annog oedolion o unrhyw oedran i gael prawf pwysedd gwaed yn rheolaidd. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw ynghylch a ydyn nhw mewn perygl o gael strôc ai peidio, fel y gallan nhw gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i leihau eu siawns, os oes angen."

Sut i leihau’ch risg o bwysedd gwaed uchel:

Yn ogystal â meddyginiaeth, gall newidiadau ffordd o fyw iach yn aml helpu i ostwng eich pwysedd gwaed hyd yn oed ymhellach.

Lleihau’r halen mae’ch corff yn ei gael.

Bwyta diet cytbwys.

Rhoi'r gorau i smygu.

Cadw pwysau iach.

Bod yn fwy egnïol.

Yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir.

Mae strôc yn argyfwng meddygol. Os ydych chi'n gweld arwyddion strôc, ffoniwch 999.

Am ragor o wybodaeth a chyngor ewch i wefan y Gymdeithas Strôc: Cymdeithas Strôc / Dod o hyd i nerth drwy gefnogaeth

 

You may also be interested in

More children from Armed Forces and veteran families now able to access support

Mwy o blant o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr bellach yn gallu cael gafael ar gymorth

Dydd Mawrth, 7 Ebrill, 2026
Fel eiriolwr brwd dros blant a theuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy o blant a phobl ifanc o'r Lluoedd Arfog a theuluoedd cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar help.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu'r diffi

Show only

  • Newyddion Lleol

Darren Millar Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd 2007-2026

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cysylltu â Darren
  • Pleidleisio drwy'r post
Hyrwyddir gan Tara Moorcroft ar ran Darren Millar o gan Commodore House, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Nid Mae Senedd Cymru, neu Darren Millar yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.
Copyright 2026 Darren Millar. All rights reserved.
Powered by Bluetree