
Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, heriodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r diffyg o £72 miliwn gan Lywodraeth Lafur y DU mewn perthynas â chost cynnydd YG y Canghellor ar gyfer cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, wedi dweud yn y Senedd:
"Mae'r Trysorlys wedi dweud heddiw [05/11/2024] y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr... Bydd yn darparu cyllid llawn i ddelio â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr dan yr amgylchiadau hynny."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Rachel Reeves i wrthdroi'r Dreth Swyddi, yn wahanol i'r Prif Weinidog.
Wrth wneud sylw, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS:
"Mae'n hollol amlwg nad oes gan Lafur unrhyw syniad na chynllun ar sut i liniaru effeithiau dinistriol y Dreth Swyddi yma yng Nghymru. Dywedon nhw y byddai 'cyllid llawn', ond mae diffyg sylweddol ac nid yn unig eleni, ond bob blwyddyn yn y dyfodol hefyd.
"Mae Treth Swyddi Llafur nid yn unig yn ergyd i fusnesau a'r trethdalwr trwy gostau'r sector cyhoeddus, mae'r newidiadau Yswiriant Gwladol hyn hefyd yn taro contractwyr sector cyhoeddus, fel casgliadau bin, gofal cymdeithasol, a gofal diwedd oes trwy hosbisau.
"Dylai'r Prif Weinidog ymddiheuro i bobl Cymru am gefnogi'r dreth swyddi, ac am y bil sylweddol y bydd yn rhaid i drethdalwyr Cymru nawr ei wynebu o ganlyniad i'w methiant i ddarparu'r cyllid sydd ei angen ar Gymru."