
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i liniaru effaith y cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gyda llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi’u contractio i eraill eu darparu, fel gofal cymdeithasol a chasglu gwastraff, wrth godi’r mater yn y Senedd, rhybuddiodd Darren y gallai cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol gan Lywodraeth Lafur y DU beryglu’r “gwasanaethau hanfodol bwysig” hyn.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, dywedodd:
“Mae yna broblem fawr yma, yn does, Ysgrifennydd y Cabinet, sef bod llawer o wasanaethau cyhoeddus mewn gwirionedd yn cael eu contractio allan i eraill eu darparu yn hytrach na chael eu darparu’n uniongyrchol gan bobl sy’n cael eu cyflogi gan y sector cyhoeddus.
“Rydyn ni eisoes yn gwybod bod cost y gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol gan y sector cyhoeddus yn y cannoedd o filiynau o bunnoedd. Ac rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n debygol y bydd angen cannoedd o filiynau yn fwy er mwyn cefnogi’r sefydliadau eraill hynny sy’n darparu gwasanaethau hanfodol bwysig - gwasanaethau cyhoeddus fel pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, sy’n darparu gofal cartref, unigolion a allai fod yn casglu gwastraff ein tai, yn llenwi tyllau yn ein ffyrdd , neu’n darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol i bobl.
“Pa sicrwydd ydych chi wedi’i gael gan Lywodraeth y DU y bydd y costau sy’n gysylltiedig â darparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i’r cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol a ddaw i ran cyflogwyr, yn cael eu talu gan eich cydweithwyr yn Nhrysorlys y DU, er mwyn sicrhau y gall y gwasanaethau hynny barhau i gael eu darparu yn ddirwystr?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet;
“Y cadarnhad rydyn ni wedi’i gael gan Lywodraeth y DU yw y bydd y Canghellor yn defnyddio diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ‘weithwyr sector cyhoeddus’ pan fydd hi’n darparu arian i’r gwasanaethau cyhoeddus i’w galluogi i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol cyflogwyr. Nawr, wrth gwrs, mae Darren Millar yn iawn nad yw’r diffiniad hwnnw’n cynnwys rhai o’r sefydliadau y mae wedi cyfeirio atynt. Ac, fel yr ydw i wedi esbonio eisoes, ni allaf ryddhau arian sy’n dod i Gymru ar gyfer buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu bil nad yw wedi’i greu yma yng Nghymru.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
“Mae’r pwynt a godais yn bryder gwirioneddol ledled Cymru ac mae’n siomedig nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gallu rhoi unrhyw sicrwydd i ni.”