Clywodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, yn uniongyrchol sut mae treth marwolaeth Llywodraeth y DU yn niweidio ffermydd teuluol yng Nghymru, pan ymwelodd â ffermwr yn Sir Fynwy.
Yng nghwmni Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig yr Wrthblaid, Peter Fox AS, cyfarfu Darren â Paul a Nigel Land yn Great House Farm.
Sefydlwyd y fferm gan Nigel ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a gyda Nigel, ei blant a’i wyrion bellach yn ei rhedeg.
Dros y blynyddoedd mae’r fferm wedi’i datblygu ac wedi mynd o nerth i nerth. Fodd bynnag, nawr, o ganlyniad i’r dreth fferm annheg, mae’r cyfan dan fygythiad.
Arferai busnesau fferm fod yn gymwys i gael rhyddhad o 100 y cant ar dreth etifeddiant ar eiddo amaethyddol ac eiddo busnes. Ond nawr mae ffermydd gwerth mwy na £1 miliwn hefyd yn atebol i dalu’r dreth.
Bu Darren a Peter Fox AS yn trafod hyn gyda Nigel a’i fab Paul, a fu’n sôn am yr effaith y bydd y newid yn ei chael arnyn nhw.
Cododd Darren eu hachos gyda’r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd yn ddiweddar:
Dywedodd
“Ymwelais ddoe â Nigel, ffermwr yn sir Fynwy. Heb ddim ond penderfyniad, dechreuodd gyda phlot wedi'i rentu, gweithiodd bob un awr a oedd ar gael ac adeiladodd fferm ei hun. Ymunodd ei wraig, ei blant ac, yn ddiweddarach, ei wyrion a'i wyresau yn yr ymdrechion hyn, gan sicrhau dyfodol i'r genhedlaeth nesaf—neu felly roedden nhw'n meddwl. Oherwydd ar yr union adeg y gwnaeth Nigel, sydd bellach yn ei 80au, ganiatáu i'w hun freuddwydio am gamu yn ôl a rhoi ei esgidiau glaw yn y cwpwrdd, a gwylio gyda balchder tawel wrth i'w deulu wneud gwaith ei fywyd, a'i barhau, i fwydo'r wlad hon, cafodd y freuddwyd honno ei chwalu gan benderfyniad cwbl ddinistriol Llywodraeth y DU i drethu mwy o ffermydd teuluol trwy wneud newidiadau i dreth etifeddiant.
Galwodd Darren ar y Prif Weinidog i ymateb i Nigel, “a miloedd tebyg iddo ledled Cymru” a ddywedodd sydd bellach yn “gweld eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau yn cael dyfodol yn y diwydiant ffermio y maen nhw'n ei garu yn cael ei ddwyn oddi wrthynt”.
Wrth siarad ar ôl ei ymweliad â’r fferm a’i gwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Darren:
“Mae’r ffordd mae ein ffermwyr yn cael eu trin yn gwbl warthus. Rydw i wedi ymweld â nifer o ffermwyr ar draws Cymru sydd i gyd yn dweud yr un peth wrthyf, sef bod y dreth hon yn dinistrio eu bywoliaethau.
“Yn fy nghwestiwn i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, tynnais sylw hefyd at achos trasig ffermwr a gafodd ddiagnosis o ganser yn fuan ar ôl y gyllideb. Roedd mor bryderus am oblygiadau’r dreth etifeddiant ar ei fferm nes iddo benderfynu gwrthod pob triniaeth gan ei fod eisiau sicrhau ei fod yn marw cyn i’r newidiadau gael eu gweithredu ym mis Ebrill. Bu farw yn anffodus yn ystod y dyddiadau diwethaf.
“Mae’n gwbl warthus bod ffermwyr yn teimlo mai dyma’r unig ddewis er mwyn amddiffyn eu ffermydd i’w plant a’u hwyrion.
“Bydd bywydau a bywoliaethau mewn perygl yng nghefn gwlad Cymru. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth Lafur sefyll dros ffermwyr ein gwlad, yn hytrach na chicio’i sodlau wrth i Lywodraeth y DU eu godro’n sych.”
Ychwanegodd Peter Fox AS:
“Mae’r straen ar ffermwyr yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i godi treth niweidiol ar ffermydd teuluol yn bryder mawr.
“Wrth siarad â Nigel a Paul roedd hi’n amlwg fod y pwysau ychwanegol yma’n ergyd galed. Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino gydol eu hoes ac wedi chwarae rhan hanfodol i roi bwyd ar ein byrddau.
“Mae Nigel wedi adeiladu busnes ffyniannus, yr oedd wedi tybio y gallai ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, ond mae’r cyfan nawr yn y fantol.
“Roedd yn ymweliad dadlennol iawn ac mae wedi’n gwneud ni’n fwy penderfynol nag erioed i barhau i ymladd dros ein ffermwyr.”